Cwpan y Byd: Merched Canada 52-0 Merched Cymru

Merched Cymru Image copyright Rex Features

Cafodd dîm rygbi Merched Cymru grasfa gan Ganada yng Nghwpan y Byd, gan golli o 52-0.

Nid oedd tîm Rowland Phillips yn gallu delio gyda chyflymdra a phŵer Canada, wnaeth sgorio wyth cais yn y gêm yn Belfast.

Sgoriodd Elissa Alarie ddwywaith yn yr hanner cyntaf, cyn i Brianna Miller, Cindy Nelles, Jacey Grusnick, Karen Paquin a Barbara Mervin sgorio.

Mae'r golled yn golygu y bydd Cymru yn wynebu Iwerddon ddydd Sadwrn i benderfynu pwy fydd yn gorffen yn y seithfed safle.