Eisteddfod Pantyfedwen Llanbedr Pont Steffan yn dathlu 50

Rhaglen eisteddfod
Image caption Mae Eisteddfod Rhys Thomas James Llanbedr Pont Steffan yn dathlu 50 mlwyddiant yn 2017

Eleni mae Eisteddfod Rhys Thomas James Pantyfedwen Llanbedr Pont Steffan yn dathlu 50 mlynedd ers cael ei sefydlu.

Ers dechrau yn 1967, mae wedi tyfu o fod yn ŵyl un dydd i un sy'n para tri diwrnod.

Yr entrepreneur Syr David James, o ardal Pontrhydfendigaid, wnaeth gysylltu gyda'r cyngor tref i'w sefydlu, a hynny er cof am ei frawd, Rhys Thomas James.

Roedd Edwin Jones a Goronwy Evans hefyd ynghlwm â'r gwaith o sefydlu'r eisteddfod.

Syr David James hefyd sefydlodd Ymddiriedolaeth Pantyfedwen, sydd wedi cefnogi Eisteddfod Llanbed ers blynyddoedd.

'Un o'r steddfodau mawr'

Ar y pryd roedd Syr David hefyd yn rhoi arian i Eisteddfodau Pontrhydfendigaid ac Aberteifi, a'r tri, gyda Llanbed, yn cael eu galw'r "eisteddfodau mawr".

Yn ôl Ysgrifennydd Cyffredinol Eisteddfod Llanbed, Dorian Jones, roedd rhywfaint o bryder ar y pryd gan eisteddfodau llai yr ardal, ond nid yw'r sicr pam.

"Falle fod nhw yn meddwl bydden nhw yn damshgel ar draed y steddfode' bychan o bosib ac fe fydde'r steddfode' bychan yn dirwyn i ben", meddai.

"Falle fydde'r steddfode' mawr yn amharu ar ddyfodol y steddfode' bach.

"Ni'n mynd 'nôl nawr i ganol y 60au le odd, o bosib, steddfode' bach yn lot fwy poblogaidd na beth ydyn nhw nawr o bosib."

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Mae gwobrau hael ar gael yn Eisteddfod Llanbed medd yr Ysgrifennydd Cyffredinol Dorian Jones

Mae'n debyg mai emyn Pantyfedwen yw'r prif reswm pam fod yr eisteddfod yn enwog i nifer yng Nghymru.

Daeth yr emyn hwnnw i fodolaeth yn sgîl un o gystadlaethau'r eisteddfod.

Un o reolau'r ŵyl yw bod rhaid cynnal cystadleuaeth ysgrifennu geiriau emyn un flwyddyn, a chystadleuaeth cyfansoddi tôn i'r emyn fuddugol y flwyddyn wedyn.

Geiriau William Rhys Nicholas, 'Tydi a Wnaeth y Wyrth' ddaeth i'r brig yn 1967, a thôn Eddie Evans, Pantyfedwen yn 1968.

Image copyright Anon
Image caption Edwin Jones (chwith) a Goronwy Evans (dde) oedd dau o sylfaenwyr yr Eisteddfod yn y 60au

Ond mae 'na hanes hirach i'r stori, yn ôl Dorian Jones: "Fi'n credu mai emyn dôn Eddie Evans oedd yn ail ond penderfynu wedyn bydde hon yn well emyn cynulleidfaol, ac i gadw er cof a chadw na'r un wreiddiol o'n nhw yn meddwl fydde yn ennill.

"Felly newidiwyd y canlyniad."

Pabell orlawn

Mewn pabell fawr ar gae Ysgol Uwchradd Llanbed oedd yr eisteddfod yn cael ei chynnal yn y dyddiau cynnar.

Tu fewn i'r ysgol mae'r ŵyl erbyn hyn, ond mae'r ysgrifennydd cyffredinol, sydd wedi bod wrthi ers 2003 yn cofio'r bwrlwm yn y babell.

"Mae gyda fi gof plentyn o fynd i'r marquee ar gyfer cyngherddau agoriadol ac yn y blaen lle, os nad odd gyda chi docyn o flaen llaw, o'dd 'da chi ddim gobaith i fynd mewn."

Image copyright Eryl Jones
Image caption Y ddawns flodau wedi un o'r prif seremonïau yn Eisteddfod Rhys Thomas James Pantyfedwen

Roedd artistiaid cenedlaethol yn dod i ymweld â'r eisteddfod gan gynnwys Hogiau'r Wyddfa, Tony ac Aloma a Max Boyce.

Erbyn hyn dyw'r neuadd ddim yn orlawn ond mae'n dal ei thir: "Dydyn ni ddim yn tynnu cynulleidfaoedd fel buon ni, ond dyw hwnna ddim yn wahanol i unrhyw steddfod arall."

Casglu arian yn anodd

Yr her i'r dyfodol yw parhau i gael arian yn lleol, meddai Mr Jones.

Mae'n costio tua £25,000 i gynnal yr eisteddfod bob blwyddyn, gyda tua £12,000 yn dod o grantiau gan Ymddiriedolaeth Pantyfedwen, Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Tref Llanbed.

"I ni yn gorfod ffindo'r gweddill, cap mewn llaw mewn ffordd i'r busnesau lleol, unigolion a holi am nawdd ac mae hwnna, mae'n rhaid cyfaddef, yn mynd yn anoddach bob blwyddyn."

Bydd Eisteddfod Llanbed yn cael ei chynnal drwy gydol penwythnos gŵyl y banc yn yr Ysgol Uwchradd.

Image copyright Eryl Jones
Image caption Roedd y cystadlu, fel y gystadleuaeth cydadrodd yma yn y 70au, yn arfer digwydd mewn pabell ar gae'r ysgol