Yr Elyrch yn arwyddo Sam Clucas o Hull

hull Image copyright Rex Features

Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi arwyddo'r chwaraewr canol cae Sam Clucas o Hull City, gyda'r bwriad o yrru Stephen Kingsley y ffordd arall fel rhan o'r fargen.

Mae Clucas, 26, wedi arwyddo cytundeb pedair blynedd am ffi heb sydd heb ei datgelu, ar ôl pasio prawf meddygol a chytuno ar delerau personol.

Mae'r BBC ar ddeall fod y ffi oddeutu £15m.

Roedd yr Elyrch wedi gwneud cynnig gwerth £12m a gafodd ei wrthod am Clucas.

Mae Clucas yn cyrraedd wedi ymadawiad Gylfi Sigurdsson i Everton am £45m.

Cyn symud i Hull, fe chwaraeodd Clucas i Henffordd, Mansfield a Chesterfield ac mae'n un o'r chwaraewyr prin i sgorio ymhob un o'r pum prif adran yn nghynghreiriau Lloegr.