Elusennau'n cwyno am embaras ceisiadau fisa

wales for africa

Mae elusennau Cymreig sydd â chysylltiadau gydag Affrica'n dweud bod rhai pobl sy'n cael gwahoddiad i Gymru'n cael eu sarhau gan y ffordd y mae'r Swyddfa Gartref yn delio gyda cheisiadau am fisas.

Ymhlith y bobl sydd wedi cael gwahoddiad i Gymru gan yr elusennau mae arbenigwyr yn eu meysydd sydd â chyngor i gynnig i'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Mae rhai gwahoddedigion hefyd wedi colli arian oherwydd bod eu fisas wedi cael eu gwrthod, a hynny'n aml ar yr unfed awr ar ddeg.

Dros ddegawd yn ôl fe wnaeth Llywodraeth Cymru lansio cynllun Cymru o Blaid Affrica er mwyn annog pobl yng Nghymru i wirfoddoli i gynorthwyo datblygu yn Affrica.

'Llanast llwyr'

Mae Geoff Lloyd yn feddyg teulu ym Mhontypridd sydd wedi gefeillio gyda thref Mbale yn Uganda. Drwy elusen Pont mae dros 100 o bobl Uganda wedi ymweld â Phontypridd dros y degawd diwethaf, ond nawr mae rhai yn cael eu gwrthod.

Dywedodd Dr Lloyd: "Y broblem fwyaf yw ein bod ni'n canfod bod mwyafrif y ceisiadau fisa yn cael eu gwrthod, ac yn cael eu gwrthod ar y funud olaf.

"Mae hynny wedi gadael ein cynlluniau i ddod ag ymwelwyr o Uganda yn llanast llwyr. Mae'n rhwystredig iawn i bobl yng Nghymru ac yn Uganda."

Cafodd dau feddyg o Ethiopia wahoddiad i ymweld ag Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan y llynedd. Dywedodd Dr Duncan Cameron bod y ddau gais wedi'u gwrthod - un oherwydd bod amheuaeth y byddai'r meddyg dan sylw yn dychwelyd i Ethiopia wedi'r ymweliad.

Dywedodd Dr Cameron: "Mae gan y meddyg deulu - dau o blant - a phractis ei hun. Mae'n gweithio mewn ysbyty yn y dre lle cafodd ei fagu a doedd ganddo ddim bwriad na rheswm i aros yn y DU.

"Roedd gwrthod ei gais felly yn embaras mawr i ni ac yn sarhad arno fe."

'Anodd ei ddeall'

Mae'r embaras hefyd yn cael ei deimlo gan gynllun Cymru o Blaid Affrica, a gafodd ei lansio gan y diweddar gyn-brif weinidog Rhodri Morgan.

Mae prif swyddog meddygol Cymru, Dr Tony Jewell, wedi dweud ei fod wedi codi'r mater gydag aelodau seneddol.

"Rwy'n credu fod pobl yn cydnabod fod hyn yn broblem, ac mae'n un anodd ei ddeall," meddai.

"Mae'r bobl yma naill ai'n arweinwyr meddygol yn eu gwledydd neu yn wleidyddion amlwg - maen nhw'n dod yma i areithio, ac fe awn nhw adre.

"Dydyn nhw ddim yn fudwyr economaidd tanseiliol."

Fe ddywed Llywodraeth Cymru bod yr Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething wedi ysgrifennu at y Swyddfa Gartref i ddadlau achos y rhai sydd am ddod i'r DU fel rhan o gynllun Cymru o Blaid Affrica.

Yn ôl y Swyddfa Gartref, mae bob cais am fisa'n cael ei drin yn unigol, gan ddilyn canllawiau mewnfudo'r DU.

Aeth llefarydd ymlaen i ddweud eu bod yn hapus i weithio gydag unrhyw sefydliad i sicrhau bod unrhyw drafferthion gyda fisas yn cael eu nodi a'u datrys yn gyflym.

Pynciau Cysylltiedig