Morgannwg yn ennill yn rownd wyth olaf y T20 blast

Jacques Rudolph a Colin Ingram Image copyright Getty Images
Image caption Jacques Rudolph a Colin Ingram yn dathlu wedi'r fuddugoliaeth yn erbyn Sir Gaerlŷr.

Mae Morgannwg wedi sicrhau eu lle yn niwrnod y ffeinals yng nghystadleuaeth y T20 gyda buddugoliaeth o naw wiced yn erbyn Sir Gaerlŷr.

Fe benderfynodd Sir Gaerlŷr fatio yn gyntaf, ac fe oedden nhw allan i gyd am 123 gyda Craig Meschede (3-17) a Graham Wagg (2-12) yn llwyddo gyda'r bêl i Forgannwg.

Roedd Morgannwg angen 124 i ennill y gêm a gyda Colin Ingram (70 heb fod allan) a Jacques Rudolph (46 heb fod allan) fe ddaeth y fuddugoliaeth yn hawdd i'r tîm cartref.

Bydd Morgannwg yn chwarae yn niwrnod ffeinals y T20 am y tro cyntaf ers 2004 ar ddydd Sadwrn 2 Medi yn Edgbaston, Birmingham.