Tân mawr mewn adeilad yng nghanol Casnewydd

casnewydd Image copyright Google

Mae diffoddwyr yn mynd i'r afael â thân "mawr" mewn adeilad uchel yng nghanol Casnewydd.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu galw ychydig ar ôl 03:00 fore Iau i'r adeilad tri llawr yn Upper Dock Street.

Mae Ffordd y Brenin gerllaw hefyd wedi ei chau yn sgil y digwyddiad.

Mae 35 o ddiffoddwyr yn bresennol yn y digwyddiad, ac mae'r adeilad yn cynnwys siop nwyddau vape a nifer o swyddfeydd.

Doedd neb yn yr adeilad pan ddechreuodd y tân, ond mae'r heddlu'n cadw golwg ar adeiladau cyfagos.