Trip i Reading i Abertawe yn nhrydedd rownd Cwpan Carabao

Abertawe Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Fe wnaeth Abertawe drechu MK Dons o 4-1 yn ail rownd Cwpan Carabao

Mae Abertawe yn wynebu trip i Reading yn nhrydedd rownd Cwpan y Gynghrair yn Lloegr (Cwpan Carabao).

Ar ôl i'r enwau gael eu tynnu allan o'r het yn Tsieina yn oriau mân fore Iau, mi fydd Caerdydd yn siomedig i weld bod Burton Albion - a enillodd y gêm yn erbyn yr Adar Gleision yn yr ail rownd - yn teithio i Old Trafford i wynebu Man Utd.

Dyma'r ail gêm oddi cartref i Abertawe yn y gystadleuaeth hyd yma, ar ôl iddyn nhw drechu MK Dons yn yr ail rownd o 4 - 1.

Bydd gemau'r drydedd rownd yn cael eu chwarae ar 19 Medi.