Dau Gymro yn dychwelyd ar gyfer y Tour of Britain

Geraint Thomas ac Owain Doull Image copyright BBC / Getty Images
Image caption Bydd Geraint Thomas ac Owain Doull yn dychwelyd ar gyfer y Tour of Britain eleni

Mae Team Sky wedi cadarnhau bydd dau Gymro yn dychwelyd o anafiadau i gystadlu yn y Tour of Britain ym mis Medi.

Bydd Geraint Thomas ac Owain Doull yn cystadlu yn y ras fydd yn gorffen yng Nghaerdydd eleni.

Yn dilyn y cyhoeddiad dywedodd Thomas ei fod yn "grêt gallu rasio o flaen torf gartref".

Mae'n dychwelyd ar ôl anafu ei ysgwydd ar ddiwedd wythnos gyntaf yn y Tour de France fis Gorffennaf.

Hon fydd y pumed tro i Doull gystadlu yn y Tour of Britain ac yn 2015 fe orffennodd yn drydedd ar gyfanswm pwyntiau.

Dywedodd Doull: "Rwy'n edrych ymlaen at y ras, mae'r torfeydd yn cynyddu yn flynyddol."

Bydd wythfed cymal y ras, sef y cymal olaf, yn mynd o Gaerwrangon i Gaerdydd ar 10 Medi.

Image caption Bydd y llinell derfyn ger Neuadd y Ddinas yng nghanol Caerdydd.

Straeon perthnasol