Carcharu dyn am lofruddio ei hen ffrind yn Yr Alban

Kieran Davies ac Ashley Hawkins Image copyright Heddlu'r Alban
Image caption Roedd Kieran Davies yn gwadu llofruddio Ashley Hawkins

Mae dyn o Gymru wnaeth guro ei hen ffrind gorau i farwolaeth mewn fflat yng Nghaeredin wedi ei garcharu am oes.

Bydd Kieran Davies o'r Barri yn treulio o leiaf 19 mlynedd dan glo wedi i reithgor ei gael yn euog mewn achos fis diwethaf.

Fe wnaeth Davies lofruddio Ashley Hawkins, hefyd o'r Barri, gan ei guro gyda morthwyl a pholyn metel.

Cafodd yr heddlu eu galw i'r fflat ar Scotland Street yn oriau mân y bore ar 2 Rhagfyr ar ôl i gymdogion glywed sŵn taro a gweiddi oddi yno.

Fe gafodd Mr Hawkins, 32, ei ganfod yn farw gydag anafiadau difrifol i'w ben. Roedd Davies hefyd yn y fflat, gyda gwaed Mr Hawkins ar ei ddillad.

Image caption Cafodd yr heddlu eu galw ar ôl i gymdogion glywed sŵn taro a gweiddi o'r fflat

Clywodd yr Uchel Lys yng Nghaeredin bod Mr Hawkins wedi cael ei daro o leiaf 24 gwaith ar ei ben, a bod yr heddlu'n credu mai morthwyl a pholyn metel gafodd eu darganfod yn y fflat oedd wedi'u defnyddio yn yr ymosodiad.

Roedd Davies wedi gwadu llofruddio Mr Hawkins, gan ddweud ei fod wedi cymryd faliwm, heroin ac ecstasi y noson honno.

Ond fe wnaeth prawf gwaed awgrymu nad oedd wedi cymryd heroin nag ecstasi, ond ei fod wedi cymryd faliwm a chanabis.

Roedd Davies yn honni ei fod yn anymwybodol ar adeg yr ymosodiad oherwydd effaith y cyffuriau.