Ysgol Glantaf: Ennill ffeinal rygbi 13 yn Llundain

Ysgol Glantaf

Mae tîm Ysgol Glantaf yng Nghaerdydd wedi ennill Pencampwriaeth Rygbi 13 Cymru a Lloegr.

Fe wnaeth tîm blwyddyn naw yr ysgol drechu Ysgol Ramadeg Mirfield o Orllewin Sir Efrog o 28-0 yng Nghlwb Rygbi Richmond yn Llundain brynhawn Gwener.

Roedd y tîm yn fuddugol ddwy flynedd yn ôl yn ffeinal blwyddyn saith, pan drechon nhw Ysgol Uwchradd Wade Deacon o Widnes.

Ond colli oedd eu hanes, a hynny yn erbyn yr un tîm, yn ffeinal blwyddyn wyth y llynedd.

Gyda Jamie Roberts a Rhys Patchell yn gyn-ddisgyblion, yn draddodiadol rygbi'r undeb yw prif gamp yr ysgol, ond dros gyfnod yr haf mae'r sylw'n troi at rygbi 13.

Image caption Harri Griffiths o Ysgol Glantaf yn derbyn gwobr 'Seren y gêm'

Cyn y gêm dywedodd capten Glantaf, Gwilym Evans fod y garfan yn "disgwyl gêm galed ond cyffrous, ac rwy'n gobeithio gallwn wneud yn siŵr y cawn y canlyniad cywir ond yn fwy pwysig y perfformiad cywir," meddai.

Wedi'r fuddugoliaeth dywedodd Pennaeth chwaraeon Ysgol Glantaf, Rhydian Gardner: "Roedd hi'n gêm galed iawn, roedd ein amddiffyn tamed yn gryfach na nhw.

"Fe sgorio ni bum cais, a dwi'n hapus iawn gyda'r ffaith gafo'r tîm ddim cais.

"Mae 'na ambell i dîm rygbi cryf iawn yng Nghaerdydd ac rydym wedi chwarae tua chwech i saith gêm eleni. Er mwyn chwarae timau cryf rydym yn gorfod teithio weithiau i chwarae ysgolion yn Wigan a Hull."

Straeon perthnasol