Paul Flynn: "Mae llawer gormod i'w wneud"

Yn 82 oed, Paul Flynn ydy aelod seneddol hynaf Cymru. Yn aelod o'r Blaid Lafur ac yn cynrychioli Gorllewin Casnewydd, mae o hefyd yn un o'n gwleidyddion mwyaf lliwgar ni.

Yma, mae'n trafod amryw o bynciau gyda Cymru Fyw gan gynnwys dylanwad Saunders Lewis arno, y boen o golli ei ferch yn 15 oed, ac ymddeoliad...

Image copyright Leon Neal
Image caption Mae Paul Flynn wedi cynrychioli Gorllewin Casnewydd ers 30 mlynedd

Paul Flynn ar genedlaetholdeb...

Rwy'n cofio gorymdeithio ger y carchar yng Nghaerdydd dros yr hawl i gael sianel deledu Gymraeg - roedd hi'n amser pwysig. Roedd yn rhaid i ni gael llais y Blaid Lafur yn yr ymgyrch ac nid ond Plaid Cymru.

Rwy'n rhan o draddodiad o genedlaetholwyr y Blaid Lafur ac rwy'n credu bod yna rwyg wedi bod yn enwedig yn y blynyddoedd diwethaf.

Roedd yna arfer bod cenedlaetholwyr Cymraeg fel Jim Griffiths yn Llanelli a Goronwy Roberts yn y gogledd - roedd criw ohonom ni yn y cyfnod ar ôl y rhyfel, ac roedd y Blaid Lafur yn well oherwydd hynny.

Paul Flynn ar gyflwr y Blaid Lafur...

Yr ergyd fwyaf gafodd y Blaid Lafur erioed oedd yn yr etholiad ddwy flynedd yn ôl yn Yr Alban oblegid roedd pobl yn colli ffydd ac yn amau ein teyrngarwch i'r wlad.

Y broblem gyda ni yn Yr Alban oedd bod pobl yno yn edrych arnon ni fel pobl Saesneg ac ein bod ni i gyd yn agos iawn at bethau oedd y blaid yn Llundain yn gofyn amdanyn nhw.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Paul Flynn yn tyngu llw i'r frenhines dan brotest yn Nhŷ'r Cyffredin ym mis Mehefin 2017 am ei fod yn "weriniaethwr o argyhoeddiad"

Paul Flynn ar ddysgu Cymraeg...

Roedd hi'n anodd iawn cael llawer o addysg Gymraeg yn tyfu i fyny ond fe ges i athro da, Glyn Ashton, yng Ngholeg Illtud Sant yng Nghaerdydd.

Roedd gen i ddiddordeb yn yr iaith - roedd gen i hoffter arbennig at lenyddiaeth Cymraeg ac roeddwn i'n darllen barddoniaeth Robert Williams Parry a T. Gwynn Jones. Fe es am sbel i'r brifysgol yng Nghaerdydd ac un o'r darlithwyr yno oedd Saunders Lewis.

Roedd e'n help imi - roedd e'n ddyn dymunol dros ben. Doeddwn i ddim yn cytuno â gwleidyddiaeth Saunders Lewis ond doedd Saunders Lewis ddim yn cytuno gyda'r hen Saunders Lewis ar y pryd.

Rwy'n cofio erthygl wnaeth e ysgrifennu yn yr Empire News. Roedd e wedi digalonni ac roedd e'n credu fod ei fywyd i gyd yn fethiant. Roedd yn sôn am yrfa [Winston] Churchill fel llwyddiant a gyrfa Saunders fel methiant. Roedd yn ddyn gyda theimladau dwfn ond dyn cymhleth iawn oedd e.

Paul Flynn ar ddechrau ei yrfa gwleidyddol...

Roeddwn i yn y coleg. Doedd e ddim y sbel fwyaf llwyddiannus i mi... roedd e'n fethiant llwyr a dweud y gwir. Roedd e'n gyfnod anodd yn fy mywyd i.

Fe es i o'r brifysgol i fod yn bus conductor am flynyddoedd ac ro'n i wedi colli diddordeb mewn llawer o bethau. Fe nes i weithio fel fferyllydd am fwy nag ugain mlynedd yng Nghasnewydd a Chaerdydd.

Ond roedd e'n dipyn bach o sioc i weld ansawdd y cynghorwyr yng Nghasnewydd a des i'n aelod o'r cyngor i sicrhau bod pethau'n gwella i'r Gymraeg.

Rwy'n cofio'r sioc y tro cyntaf o siarad am "Allt-yr-yn" a lleoedd ag enwau Cymraeg. Efallai mai'r broblem oedd bod Sir Fynwy yn arfer bod yn rhan o Loegr ac mae hynny bron wedi marw allan i gyd erbyn hyn.

Ond y motto ar hen gyngor Gwent oedd "ffyddlon i'r ddau" yn Lladin ac roeddwn i'n disgwyl taw'r ystyr oedd "ffyddlon i'r iaith Gymraeg a Saesneg", ond y gwir ystyr oedd "ffyddlon i Gymru ac i Loegr"!

Doedd yna ddim llawer o gydymdeimlad neu ddealltwriaeth am yr iaith ond mae pethau wedi gwella oblegid dyw e ddim yn gymaint o bêl-droed gwleidyddol.

Image caption "Roedd e wedi digalonni ac roedd e'n credu fod ei fywyd i gyd yn fethiant," meddai Mr Flynn am Saunders Lewis (uchod)

Paul Flynn ar hunanladdiad ei ferch...

Fe ddigwyddodd e yn 1979 pan oedd hi'n 15 oed. Rwy' wedi ysgrifennu llyfr am y peth ac roedd cyfaill i fi yn y senedd, Tony Wright, yn darllen y llyfr ac yn dweud taw'r unig gysur yw gwybod bydd hi ddim yn bosibl i gael unrhyw boen sy'n waeth na cholli plentyn.

Rwy'n meddwl bod llawer o bobl yn teimlo 'run fath. Mae'n rhoi rhyw fath o nerth i chi ond mae'n parhau i fod y peth gwaethaf all ddigwydd i rywun.

Dydw i ddim yn teimlo'n gyfrifol am ei marwolaeth. Doedd dim synnwyr - dyw hi ddim yn bosibl egluro pam wnaeth hi [ladd ei hun]. Roeddwn i'n dad da iddi hi dros ei bywyd. Dwi'n meddwl ei fod yn un o'r pethau sy'n gallu digwydd i bobl ifanc. Ond mae'n glwyf sy'n dal i boeni ni, does dim posib achub ni o'r boen.

Paul Flynn ar ymddeoliad...

Mae llawer gormod o bethau i'w gwneud! Efallai bod hynny yn swnio tipyn bach yn arrogant ond un o broblemau'r senedd yw eu bod nhw ddim yn cymryd sylw digonol o'r dystiolaeth sydd ar gael.

Mae pethau fel cyffuriau anghyfreithlon, er enghraifft. Rydym ni wedi bod yn creu ac yn dal i fod yn ffyddlon i prohibition a dyw e ddim yn gweithio. Mae e'n creu problemau - mae'r byd yn newid.

Dyna un o'r rhesymau pam rwy'n parhau i fynd i'r senedd, i arwain barn y cyhoedd ac nid dilyn barn y cyhoedd fel Trump, fel rhyw fath o populist.