Owen Sheers: Llên Saesneg angen bod yn bwnc craidd

Llyfrau

Mae awdur a bardd blaenllaw o Gymru yn credu bod angen ailgyflwyno Llenyddiaeth Saesneg TGAU fel un o'r prif bynciau wrth edrych ar berfformiad ysgolion.

Mae'r niferoedd sydd yn astudio'r pwnc wedi haneru yn y 12 mis diwethaf, ac mae Owen Sheers yn dweud bod hynny'n "bryder mawr".

Mae'n rhaid i ysgolion yng Nghymru ddysgu Saesneg Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, ond athrawon sydd yn penderfynu os yw disgyblion yn gwneud Llenyddiaeth Saesneg fel pwnc TGAU.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y byddan nhw yn cynnal adolygiad o'r ffordd mae llenyddiaeth yn cael ei ddysgu.

'Dinasyddion llawn'

16,780 o fyfyrwyr wnaeth sefyll arholiad Llenyddiaeth Saesneg yng Nghymru yn 2017, yn ôl ffigyrau Ofqual.

30,100 oedd y ffigwr yn 2016 a 26,570 yn 2015.

Yn ôl Mr Sheers dylai'r llywodraeth ailgyflwyno Llenyddiaeth Saesneg TGAU fel un o'r prif bynciau, er mwyn gwneud yn siŵr bod disgyblion yn derbyn addysg gyflawn.

Dywedodd: "Dyw addysg ddim jyst yn ymwneud gyda pharatoi plant ar gyfer y byd gwaith, ond eu datblygu nhw i fod yn ddinasyddion llawn.

"Os nad yw hwn yn un o'r mesurau craidd sut ydyn ni fod i wybod ei fod yn cael ei ddysgu mewn dyfnder, a sut ydyn ni'n gwybod bod pawb yn cael y cyfle i ddarllen y testunau hyfryd yma?

"Dydyn ni ddim."

Image copyright Getty Images
Image caption Mae cwymp wedi bod yn y nifer sydd yn astudio Llenyddiaeth Saesneg TGAU

Pwysau i gyrraedd targedau yw'r rheswm am y sefyllfa meddai Rajvi Glasbrook Griffith, Prifathro Cynorthwyol yng Nghasnewydd sydd hefyd yn awdur.

"Mae ysgolion wedi dewis gwneud hyn am eu bod nhw dan bwysau," meddai.

"Efallai bod Llywodraeth Cymru ddim wedi sylweddoli goblygiadau mesur perfformiad data yn y ffordd yma.

"Ond pwy sy'n dioddef? Y disgyblion.

"Mewn nifer o ysgolion maen nhw wedi cael gwared â Llenyddiaeth Saesneg yn gyfan gwbl.

"Mewn ysgolion eraill dim ond y setiau uchaf sydd yn gwneud yr arholiad am eu bod nhw yn bownd o gael gradd benodol ond ddylai'r gradd ddim bod y ffactor fwyaf pwysig."

Image caption Yn 2014 fe enillodd Owen Sheers deitl Llyfr y Flwyddyn yn Saesneg

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn "gwrando ar bryderon" bod rhai ysgolion ddim yn cyrraedd y gofynion.

Eleni mae Saesneg Iaith TGAU, sydd yn orfodol, wedi newid rhywfaint gan ganolbwyntio ar sillafu ac atalnodi. Mae hefyd, meddai'r llywodraeth, yn cynnwys elfennau o lenyddiaeth.

Penderfyniad i'r ysgolion

Mae'r llywodraeth hefyd yn dweud y bydd Estyn yn cynnal adolygiad o'r ffordd mae llenyddiaeth yn cael ei ddysgu, ond mai ysgolion sydd yn penderfynu pwy sydd yn sefyll pa arholiadau.

Dywed y llefarydd hefyd: "Mae ysgolion wastad wedi dewis rhoi llai o ddisgyblion i sefyll arholiad TGAU llenyddiaeth na TGAU iaith, dyw hyn ddim yn ffenomen newydd.

"Fe fyddai'n hollol amhriodol i lywodraeth genedlaethol rhoi gorchymyn i bobl ifanc sefyll arholiad TGAU penodol a does gyda ni ddim bwriad cymryd y cyfrifoldeb hynny oddi wrth yr ysgolion."