Cyhoeddi carfan Cymru i wynebu Awstria a Moldofa

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Owain Llŷr fu'n holi dirprwy reolwr Cymru, Osian Roberts

Mae Chris Coleman wedi cyhoeddi'r chwaraewyr fydd yng ngharfan Cymru i wynebu Awstria a Moldofa yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd.

Un newid amlwg ers y gêm yn erbyn Serbia ym mis Mehefin yw bod Gareth Bale yn ôl ar ôl iddo gael ei wahardd ar gyfer y gêm ym Melgrad.

Mae Ethan Ampadu, amddiffynnwr 16 oed o Chelsea, wedi'i gynnwys yn y garfan lawn am y tro cyntaf, er iddo gael ei gynnwys yn y sgwad hyfforddi ym mis Mehefin.

Nid yw golwr Inverness Caledonian Thisle, Owain Fôn Williams wedi ei gynnwys yn y garfan, gydag Adam Davies wedi'i ddewis yn ei le.

Mae Ampadu a Davies ymysg y chwe chwaraewr all ennill eu capiau cyntaf, ynghyd â Tom Lockyer, Lee Evans, Marley Watkins a Ben Woodburn.

Mae Joe Allen a Neil Taylor hefyd wedi'u cynnwys yn y garfan, er eu bod wedi'u gwahardd ar gyfer y gêm gartref yn erbyn Awstria.

Image caption Mae Ethan Ampadu wedi'i gynnwys yn y garfan am y tro cyntaf

Y garfan yn llawn:

Golwyr: Wayne Hennessey (Crystal Palace), Danny Ward (Lerpwl), Adam Davies (Barnsley).

Amddiffynwyr: Ben Davies (Tottenham Hotspur), James Chester (Aston Villa), Neil Taylor (Aston Villa), Chris Gunter (Reading), Jazz Richards (Caerdydd), Ashley Williams (Everton), Tom Lockyer (Bristol Rovers), James Collins (West Ham), Ethan Ampadu (Chelsea).

Canol cae: Joe Allen (Stoke City), David Edwards (Reading), Andy King (Caerlŷr), Lee Evans (Wolverhampton Wanderers - ar fenthyg yn Wigan Athletic), Joe Ledley, Aaron Ramsey (Arsenal), Jonny Williams (Crystal Palace).

Ymosodwyr: Marley Watkins (Norwich), Hal Robson-Kanu (West Bromwich Albion), Sam Vokes (Burnley), Gareth Bale (Real Madrid), Ben Woodburn (Lerpwl), Tom Lawrence (Derby County).