Caerdydd 2-1 Queens Park Rangers

Pel droed Image copyright Huw Evans picture agency

Mae tîm peldroed Caerdydd wedi sicrhau bod nhw yn parhau ar frig y bencampwriaeth wedi buddugoliaeth yn erbyn Queens Park Rangers.

Yr ymwelwyr gafodd y gôl gyntaf ond doedd eu mantais ddim yn hir gyda Junior Hoilett yn ei gwneud hi'n gyfartal.

Yn eiliadau olaf yr hanner cyntaf daeth yr ail i'r Adar Gleision gyda pheniad Sol Bamba.

Cafodd Caerdydd ddau gyfle da yn yr ail hanner ond er y pwyso ddaeth na ddim trydydd gôl.

Ond mae'r canlyniad yn golygu bod Caerdydd wedi ennill y bumed gêm o'r bron yn y bencampwriaeth.