Casnewydd 4-1 Chesterfield

Pel droed Image copyright Huw Evans picture agency

Mae Casnewydd yn parhau yn ail yn y tabl wedi buddugoliaeth o 4 - 1 yn erbyn Chesterfield a hynny ar eu cae newydd yn Rodney Parade.

Chris O'Grady, chwaraewr Chesterfield gafodd y gôl gyntaf ar ôl 37 munud ac er i'r Alltudion daro'r postyn 1- 0 oedd hi ar ddiwedd yr hanner cyntaf.

Ond fe darodd y tîm cartref yn ôl gyda tharan o ergyd gan Frank Nouble.

Daeth dwy arall iddo o fewn munudau i'w gilydd, cyn i Padraig Amond gael ei gôl gyntaf i'w dîm wyth munud cyn diwedd y gêm.