Achub person o afon Llyfni wedi 'digwyddiad'

Afon Llyfni Image copyright Geograph/Jaggery

Mae un person wedi ei achub o afon Llyfni ger Ffordd Llanllyfni ym Mhenygroes.

Dywedodd y gwasanaeth tân bod "digwyddiad" wedi bod yn yr afon.

Cafodd y person driniaeth feddygol gan y gwasanaeth ambiwlans.