Y paffiwr Nathan Cleverly yn colli ei deitl

Bocsio Image copyright Getty Images

Colli ei deitl oedd hanes y paffiwr o Gymro, Nathan Cleverly yn Las Vegas yn oriau mân fore Sul.

Roedd yr ornest WBA pwysau go drwm yn ail i Floyd Mayweather yn erbyn Conor McGregor ar fwydlen y noson.

Hon oedd amddiffyniad cyntaf y Cymro o Gaerffili o'i deitl ond fe gafodd ei guro mewn modd digamsyniol gan yr ymladdwr o Sweden Badou Jack.

O'r cychwyn roedd Jack ar y droed flaen gydag ergydion trwm a chywir.

Yn y bumed rownd, gyda Cleverly a'i gefn ar y rhaffau, fe daflodd Jack am y trydydd tro fflyd o ergydion.

Ac er bod Cleverly wedi dangos cryn ddewrder a gwrthod cael ei lorio, fe gamodd y dyfarnwr rhwng y ddau focsiwr a stopio'r ornest.

Ar ôl y golled dydi hi ddim yn glir beth fydd dyfodol y Cymro 30 oed.