Corff dyn wedi ei ddarganfod ar draeth yn Y Barri

Y gwasanaeth ambiwlans
Image caption Mae'r gwasanaeth ambiwlans a'r heddlu yno ar hyn o bryd

Mae corff dyn wedi ei ddarganfod gan gerddwr ar draeth yn ardal Parc Gwledig Porthceri yn Y Barri.

Fe anfonodd y gwasanaeth ambiwlans gerbyd a dau hofrennydd ar ôl derbyn yr alwad am 11:30 fore Sul.

Mae Heddlu'r De a'r gwasanaeth ambiwlans yn parhau i fod yno.

Mae'r heddlu yn dweud ei bod yn parhau i ymchwilio a dyw hi ddim yn glir eto os yw'r farwolaeth yn un amheus.