Boreham Wood 0-1 Wrecsam

Alex Reid yn chwarae i Rushall Olympic Image copyright Rushall Olympic
Image caption Mae Alex Reid ar fenthyg yn Wrecsam o Fleetwood Town

Trydedd gôl Alex Reid mewn pedair gêm gipiodd y tri phwynt i Wrecsam yn erbyn Boreham Wood.

Fe sgoriodd Reid unig gôl y gêm gyda pheniad o gic gornel Paul Rutherford wedi ychydig dros awr.

Yr ymwelwyr gafodd y cyfleoedd gorau er gwaethaf dechrau da'r tîm cartref i'r tymor.

Mae Wrecsam yn dringo i'r pedwerydd safle yn y Gynghrair Genedlaethol, tri phwynt oddi ar y brig.