Bowlwyr Morgannwg yn rhoi gobaith am fuddugoliaeth

Craig Meschede Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Craig Meschede oedd arwr Morgannwg gyda'r bêl a'r bat

Gyda golau gwael yn dod â'r chwarae i ben yn gynnar ar ail ddiwrnod y gêm bencampwriaeth ym Mae Colwyn, fe allai'r gêm fynd y ddwy ffordd.

Ar ôl cyrraedd cyfanswm o 294 yn eu batiad cyntaf, fe gafodd bowlwyr Morgannwg ddiwrnod da yn erbyn Sussex.

Cafodd Craig Meschede bedair wiced a Ruaidhri Smith tair wrth gadw'r ymwelwyr i sgôr o 268 yn eu batiad cyntaf nhw.

Ond yna daeth cwymp yn ail fatiad Morgannwg gydag Oliver Robinson yn llwyddo gyda'r bêl i Sussex fel y gwnaeth yn y batiad cyntaf.

Pan ddaeth y chwarae i ben roedd Morgannwg wedi cyrraedd 126 am 6 yn eu hail fatiad i roi mantais o 152 i'r tîm cartref gyda phedair wiced yn weddill.

Yn dilyn ei gyfraniad allweddol o 87 rhediad yn y batiad cyntaf mae Meschede ar 19 heb fod allan yn yr ail, a bydd ei gyfraniad ar y diwrnod olaf yn bwysig.

Tîm llai profiadol sy'n cynrychioli'r sir o Gymru, gyda phum chwaraewr allweddol yn methu'r gêm i baratoi at gemau terfynol y T20 ddydd Sadwrn.

Pencampwriaeth y Siroedd - Ail Adran: Diwedd yr ail ddiwrnod (o dri):-

Morgannwg (batiad cyntaf) = 294 (Meschede 87; Selman 58)

(ail fatiad) = 126 am 6

Sussex (batiad cyntaf) = 268