Cwmni o Gaerdydd i greu 70 swydd ar ôl buddsoddiad £2m

ActiveQuote Image copyright ActiveQuote
Image caption Mae 120 o staff eisoes yn gweithio i'r cwmni

Bydd cwmni yswiriant a chymharu prisiau o Gaerdydd yn creu 70 o swyddi fel rhan o ehangiad gwerth £2m.

Mae'r buddsoddiad gan ActiveQuote ym Mae Caerdydd yn cael ei gefnogi gyda £400,000 gan Lywodraeth Cymru.

Bydd yn galluogi i'r cwmni gynyddu nifer ei staff i 190 a datblygu technoleg newydd i helpu pobl gymharu prisiau megis yswiriant a biliau yn well.

Dyma ail fuddsoddiad Llywodraeth Cymru yn y cwmni, wedi iddo dderbyn £600,000 yn 2014.