Dynes o Gaerdydd yn y llys ar gyhuddiad terfysgol

Llys Ynadon Westminster Image copyright Getty Images
Image caption Fe ymddangosodd Sadia Malik yn Llys Ynadon Westminster ar un cyhuddiad terfysgol ddydd Mawrth

Mae dynes o Gaerdydd wedi ymddangos mewn llys ar gyhuddiad o ledaenu deunydd terfysgol.

Mae Sadia Malik, 36 o Grangetown, wedi'i chyhuddo o yrru dwy neges i 12 o bobl gyda dolenni i fideos eithafol ar YouTube.

Yn ôl yr erlyniad, roedd y negeseuon yn arwain at bum fideo o bregethau oedd yn annog terfysgaeth.

Yn y gwrandawiad yn Llys Ynadon Westminster fore Mawrth, fe blediodd Ms Malik yn ddieuog i'r cyhuddiad.

Cafodd ei rhyddhau ar fechnïaeth amodol ac mae disgwyl iddi ymddangos mewn gwrandawiad yn llys yr Old Bailey ar 21 Medi.

Mae gŵr Ms Malik, Sajid Idris, eisoes wedi ei gyhuddo o ledaenu deunydd terfysgol fel rhan o'r un ymchwiliad.