Tlws y Gynghrair: Forest Green Rovers 2-0 Casnewydd

Dan Wishart Image copyright Getty Images
Image caption Dan Wishart oedd sgoriwr gôl Forest Green

Mae Forest Green Rovers wedi trechu Casnewydd yng ngornest gyntaf y ddau dîm yn Nhlws y Gynghrair eleni.

Fe aeth y tîm cartref ar y blaen ar ôl 21 munud yn dilyn ergyd Dan Wishart o ymyl y cwrt cosbi.

Cafodd y canlyniad ei selio gyda gôl pum munud o'r diwedd oddi wrth y chwaraewr canol cae Luke James.

Y timau eraill yng ngrŵp Casnewydd a Forest Green Rovers yn Nhlws Checkatrade yw Cheltenham Town a thîm dan-21 Abertawe.