Disgwyl i Ramsey fod yn holliach erbyn gêm Awstria

Aaron Ramsey Image copyright Getty Images
Image caption Ramsey oedd sgoriwr gôl Cymru yn eu gêm gyfartal yn erbyn Serbia ym mis Mehefin

Mae disgwyl i Aaron Ramsey fod yn ffit ar gyfer gêm Cymru yn erbyn Awstria ddydd Sadwrn, ar ôl iddo ymarfer gyda'r garfan.

Roedd Ramsey, 26, wedi methu'r sesiwn ddydd Mawrth wedi iddo ddioddef anaf i'w goes tra'n chwarae dros Arsenal dros y penwythnos.

"Mae e'n iawn, fe wnaeth e ymarfer heddiw ac mae gyda ni 'chydig i fynd tan y gêm felly mae'n edrych fel y bydd e'n iawn," meddai'r amddiffynnwr Chris Gunter.

Fe wnaeth pob aelod arall o'r garfan ymarfer ddydd Mawrth, gyda rhai gan gynnwys Gareth Bale yn cymryd rhan mewn sesiwn ysgafnach yn dilyn gemau i'w clybiau ddydd Sul.

Bydd Cymru'n gobeithio cau'r bwlch yr wythnos hon ar Serbia ac Iwerddon, sydd ar frig eu grŵp rhagbrofol, wrth geisio cyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd 2018 yn Rwsia.

Gyda phedair gêm i fynd maen nhw ac Awstria bedwar pwynt y tu ôl i'r ceffylau blaen - mae gan Gymru hefyd gemau yn erbyn Moldova, Georgia ac Iwerddon yn weddill.