Sussex yn trechu Morgannwg mewn gêm agos ym Mae Colwyn

Chris Nash Image copyright Getty Images
Image caption Chris Nash oedd y prif sgoriwr i Sussex gyda 68 rhediad

Fe wnaeth Morgannwg golli am y bedwaredd tro yn olynol ym Mhencampwriaeth y Siroedd wrth i Sussex ennill gêm gyffrous ym Mae Colwyn.

Chris Nash oedd y seren i'r ymwelwyr, gyda'i sgôr o 68 yn eu helpu i gyrraedd 211-9 i drechu'r Cymry o un wiced yn unig.

Roedd y tîm cartref mewn safle cryf cyn i berfformiad Oliver Robinson droi'r gêm i Sussex, gan daro dau 6 ar ei ffordd i sgôr o 41 heb fod allan.

Yn gynharach yn y diwrnod fe wnaeth Chris Jordan fowlio'n gryf i Sussex wrth i Forgannwg gael sgôr o 182, gyda Craig Meschede yn sgorio uchaf gyda 41.

Bydd Morgannwg nawr yn troi eu sylw at ddydd Sadwrn, ble bydden nhw'n ymddangos yn niwrnod ffeinals y T20 am y tro cyntaf.


Pencampwriaeth y Siroedd - Ail Adran: Canlyniad :-

Morgannwg (batiad cyntaf) = 294

(ail fatiad) = 182

Sussex (batiad cyntaf) = 268

(ail fatiad) = 211-9

Sussex yn ennill o un wiced.