Abertawe'n arwyddo Renato Sanches a Wilfried Bony

Renato Sanchez
Image caption Roedd Renato Sanchez yn rhan o garfan Portiwgal enillodd Euro 2016

Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi arwyddo chwaraewr canol-cae Bayern Munich, Renato Sanches ar fenthyg, a'u cyn-ymosodwr Wilfried Bony o Manchester City.

Bydd Sanches, sydd â 12 o gapiau i Bortiwgal, yn cyrraedd Cymru yr wythnos nesaf ar ôl cyfnod y gemau rhyngwladol.

Fe wnaeth Bony adael de Cymru am Fanceinion am £25m ym mis Ionawr 2015, a'r gred yw bod yr Elyrch wedi talu £12m i'w ddenu yn ôl i'r clwb.

Ond un sydd wedi gadael Abertawe yw'r ymosodwr Fernando Llorente, gyda'r gŵr o Sbaen yn ymuno â Tottenham Hotspur.

Fe wnaeth Sanches, 20 oed, ymuno â Bayern o Benfica ym mis Mai y llynedd am €35m.

Y gred yw bod Abertawe wedi talu £4m am y benthyciad nes diwedd y tymor, a bydden nhw'n talu'r mwyafrif o'i gyflog hefyd.

Image copyright Getty Images
Image caption Wilfried Bony oedd prif sgoriwr Uwch Gynghrair Lloegr yn 2014

Roedd yn aelod o dîm buddugol Portiwgal yn Euro 2016, ac fe enillodd wobr Seren y Gêm ddwywaith yn ystod y gystadleuaeth gan gynnwys yn rownd yr wyth olaf.

Gobaith yr Elyrch yw y bydd Sanches yn gallu llenwi'r bwlch sydd wedi'i adael gan Gylfi Sigurdsson, wnaeth arwyddo i Everton am £45m yn gynharach yn y mis.

Daeth cadarnhad yn hwyr nos Iau bod Bony, 28, wedi arwyddo cytundeb dwy flynedd â'r Elyrch cyn i'r ffenestr drosglwyddo gau am 23:00.

Roedd adroddiadau bod Abertawe hefyd â diddordeb arwyddo'r asgellwr Nacer Chadli, ond doedden nhw ddim yn fodlon talu'r £26m yr oedd West Bromwich Albion yn gofyn amdano.