Carcharu nyrs am ymosodiadau rhyw ar bedair dynes

Andrew Lauder Image copyright Wales News Service
Image caption Fe wnaeth Andrew Lauder ymosod ar y pedair dynes rhwng 2014 a 2017

Mae nyrs wedi'i garcharu am ddwy flynedd a naw mis am ymosodiadau rhyw ar bedair dynes mewn ysbyty yn ne Cymru.

Dywedodd y barnwr bod Andrew Lauder, 54, "ddim yn gallu peidio" taro merched ar eu penolau a chyffwrdd eu bronnau.

Roedd Lauder, o Wenfô, Bro Morgannwg, wedi pledio'n ddieuog i 10 cyhuddiad o ymosodiadau rhyw ond fe gafwyd yn euog o saith cyhuddiad gan reithgor.

Fe ddigwyddodd y troseddau rhwng Chwefror 2014 a Ionawr 2017.

Bydd hefyd yn rhaid i Lauder gofrestru fel troseddwr rhyw.