Galw am weithredu achos dŵr ar gaeau yn Nyffryn Dysynni

Caeau dan ddŵr, Dyffryn Dysynni Image copyright UAC
Image caption Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn dweud bod "ardal helaeth" o'r dyffryn dan ddŵr

Mae angen i Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) weithredu "ar frys" i ddelio â llifogydd sy'n effeithio ar ffermwyr yn ne Gwynedd, yn ôl undeb.

Dywedodd Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) bod dŵr uchel wedi taro "ardal helaeth" o Ddyffryn Dysynni ger Tywyn.

Maen nhw'n cwestiynu pa mor "drylwyr" yw'r gwaith cynnal a chadw ar ffosydd draenio sydd dan ofal CNC.

Mae CNC wedi dweud eu bod "yn deall y pryderon, ac yn parhau i weithio gyda thirfeddianwyr ac UAC".

Image caption Mae ffermwyr yn gorfod talu ardreth orfodol i dalu am ddraenio'r dyffryn

Mae Dyffryn Dysynni yn un o 14 Ardal Draenio Mewnol yng Nghymru, sy'n golygu "bod yna angen penodol am reoli lefelau dŵr", yn ôl gwefan CNC.

Mae gan y dyffryn system ddraenio gafodd ei hadeiladu yn yr 1860au, ac sy'n ymestyn o'r arfordir hyd at Graig yr Aderyn ger Llanfihangel-y-Pennant.

Gan ei bod yn Ardal Draenio Mewnol, mae'n rhaid i dirfeddianwyr yn yr ardal dalu ardreth orfodol am gostau cynnal y system.

Image caption Dywedodd Huw Jones bod ffermwyr yn diodde' o "golled ariannol sylweddol" oherwydd llifogydd

Ond mae lefelau dŵr yno eleni yn "waeth nag mae hi wedi bod ers blynyddoedd", yn ôl swyddog UAC ym Meirionnydd, Huw Jones.

Dywedodd bod "lot o dir dan ddŵr" a bod gordyfiant yn golygu bod angen agor prif ffos y system ddraenio "ar frys".

"Mae 'na lot o'r tir [dydy'r ffermwyr] methu mynd iddo fo oherwydd y dŵr, mae gwerth cynhyrchiol y tir yn cwympo yn ddifrifol, mae'n dir gwlyb a brwyn yn tyfu," meddai.

"Mae'n golled arian sylweddol i ffermwyr yr ardal. Mae llawer iawn o'r tir gwaelodion [ymysg...] y tir gorau sydd gyda nhw, ac maen nhw methu'i ddefnyddio fo."

'Dim yn ddigon trwyadl'

Yn ôl Mr Jones, mae'r "broblem yn cynyddu blwyddyn ar ôl blwyddyn" ac mae angen i CNC wneud mwy i gynnal a chadw'r system ddraenio, yn enwedig gan fod ffermwyr yn gorfod cyfrannu at y costau.

"Beth sy'n bwysig ydy bod 'na angen cynnal a chadw'r system yn rheolaidd. Blynyddoedd yn ôl, roedd y ffosydd yn cael eu glanhau ddwywaith y flwyddyn, erbyn hyn, unwaith y flwyddyn maen nhw'n cael eu glanhau ac yn aml, dydy'r gwaith ddim yn cael ei wneud yn ddigon trwyadl," meddai.

"Os oes 'na gaeau dan ddŵr adeg yma'r flwyddyn, yna beth fydd y sefyllfa ynghanol gaeaf, pan fydd hi'n wlyb iawn?"

Ychwanegodd: "Yn amlwg, mae 'na lawer [o ffermwyr] yn teimlo nad ydy o'n deg eu bod nhw'n talu os na chaiff gwaith ei wneud yn iawn."

Image copyright UAC

Dywedodd Keith Ivens, Rheolwr Gweithrediadau gyda Chyfoeth Naturiol Cymru, bod y "rhwydwaith o ffosydd draenio yn Nyffryn Dysynni wedi'i gynllunio'n ofalus i reoli lefelau dŵr yn yr ardal ac i atal eiddo gerllaw rhag diodde' llifogydd."

Ychwanegodd: "Mae'r rhaglen flynyddol o waith cynnal a chadw'n cael ei hadolygu a'i chytuno gyda Grŵp Ymgynghori Draenio Mewnol Ardal Dysynni.

"Dim ond unwaith y flwyddyn mae modd gwneud y gwaith ar hyn o bryd oherwydd y lefel y cyllid sydd ar gael i'r grŵp. Byddai unrhyw waith ychwanegol yn golygu cynnal adolygiad o'r cyllid i dalu'r costau cynnal a chadw ychwanegol.

"Rydym yn deall pryderon ffermwyr, a'r effaith y mae hyn yn ei gael ar eu bywoliaeth, a byddwn yn parhau i weithio gyda thirfeddianwyr ac Undeb Amaethwyr Cymru i sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud yn y ffordd fwyaf effeithiol."

Pynciau Cysylltiedig