Moldofa 0-2 Cymru

Hal Robson-Kanu Image copyright Reuters

Mae Cymru wedi codi i'r ail safle yn eu grŵp wedi i ddwy gôl hwyr guro Moldofa.

Er i Gymru gael y rhan fwyaf o'r meddiant, fe wrthsafodd Moldofa ymosodiadau tîm Chris Coleman am 80 munud.

Ond - fel yn erbyn Awstria nos Sadwrn - daeth traed y llanc Ben Woodburn i newid cwrs y gêm, gyda'i groesiad yn rhoi'r cyfle i Hal Robson-Kanu benio i gefn y rhwyd.

Fe sgoriodd Aaron Ramsey yr ail wedi i'w ergydiad o ymyl y cwrt cosbi wyro oddi ar amddiffynnwr.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Is-reolwr Cymru, Osian Roberts, yn dweud fod yr 'hyder yn uchel' ymysg y chwaraewyr wedi'r fuddugoliaeth yn erbyn Moldofa

Dechreuodd Cymru'r gêm yn Chisinau - gêm allweddol yn y ras i gyrraedd Cwpan y Byd 2018 yn Rwsia - gyda phedwar yn y cefn a golwg ymosodol.

Ond doedd dim lle yn yr 11 i Woodburn, sy'n 17, er iddo rwydo ar achlysur ei gap cyntaf nos Sadwrn.

Roedd Cymru'n edrych yn eithaf llafurus ar adegau yn yr hanner cyntaf, ac yn methu datgloi amddiffyn ystyfnig Moldofa oedd - ar yr un pryd - yn edrych yn beryglus wrth wrth ymosod.

Daeth cyfle disglair wedi 19 munud ar ôl i olwr Moldofa, Ilie Cebanu, ollwng y bêl wedi ergydiad gan Gareth Bale - ond llwyddodd i atal Ramsey rhag rhwydo, ac fe gafodd ergyd Robson-Kanu wedyn ei chlirio gan amddiffynnwr.

Image copyright Reuters
Image caption Hon oedd gôl gyntaf Hal Robson-Kanu dros Gymru ers Euro 2016

Dechreuodd Cymru'r ail hanner yn llawn hyder, gyda'r cyfle amlwg cyntaf yn dod i Robson-Kanu, gydag ergyd aeth i'r chwith o bostyn Cebanu.

Er hynny, fe allai Moldofa fod wedi mynd ar y blaen, a bu'n rhaid i Andy King glirio o'i linell ei hun wedi camgymeriad amddiffynnol.

Wrth i amser brinhau, penderfynodd Coleman ddod â Woodburn a Sam Vokes i'r maes, ac fe gafodd Vokes gyfle cynnar o groesiad Joe Allen - ond i'w beniad fynd heibio'r postyn.

Ond, yn y diwedd, daeth egni Woodburn â rhywbeth newydd i berfformiad Cymru, gyda'i groesiad yn rhoi'r gôl allweddol ar blât i Robson-Kanu.

Mae Cymru'n codi i'r ail safle wedi i Weriniaeth Iwerddon golli o 1-0 yn erbyn Serbia, sy'n dal ar frig Grŵp D.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Mae Ben Woodburn yn "chwaraewr arbennig" meddai amddiffynwr Cymru, Ben Davies

Dadansoddiad Marc Lloyd-Williams

"Chwe phwynt ofynnwyd amdano'r wythnos yma a chwe phwynt a gafwyd, doedd hi ddim yn hawdd heno yn erbyn Moldofa, mi roedd digon o gnoi gwinedd.

"Ymlaen â ni i Georgia, mi fydd hi'n benwythnos enfawr mis nesaf, credwch chi fi."

Straeon perthnasol