San Steffan a Brexit: 'Tasg enfawr' y tymor newydd

may
Image caption Y tro diwethaf i Theresa May fynd ar wyliau i Ddolgellau fe benderfynodd alw Etholiad Cyffredinol

Mae hi wedi bod yn haf digon tawel yn wleidyddol, gan roi cyfle i Theresa May ddychwelyd i Ddolgellau ar ei gwyliau i ddringo'r copaon lleol.

Er na fydd etholiad y tro hwn, wrth i'r senedd ailymgynnull yr wythnos hon mae gan y prif weinidog fynydd arall i'w ddringo.

Ddydd Iau fe fydd aelodau seneddol yn dechrau trafod Mesur Gadael yr Undeb Ewropeaidd - "cam hanfodol" yn y broses o adael yr UE, yn ôl Mrs May.

Ond mae'n un sy'n debygol o gynnig yr her seneddol fwyaf eto i'r prif weinidog, gan brofi undod a nerth y Blaid Geidwadol i'r eithaf.

Yn ei hanfod mae'n fesur reit dechnegol. Mae'n diddymu'r ddeddf wnaeth ein galluogi i ymuno â'r UE yn y lle cyntaf, ac yn trosglwyddo holl ddeddfau Ewropeaidd i'r llyfr statud Prydeinig, fel nad oes unrhyw broblemau ar y diwrnod cyntaf wedi Brexit.

Ond gyda llyfrgell Tŷ'r Cyffredin yn amcangyfrif bod rhyw 12,000 o reoliadau i'w trosglwyddo, maen nhw'n dweud mai dyma "un o'r prosiectau deddfwriaethol mwyaf i'r DU ymgymryd ag o".

Tipyn o dasg i unrhyw brif weinidog, ond un sy'n anoddach fyth efo mwyafrif bychan Mrs May.

'Cyfle i wyntyllu barn'

Fe fydd aelodau o bob plaid yn gweld hwn fel cyfle i wyntyllu eu barn ar Brexit. Ac mae disgwyl i'r gwrthbleidiau a rhai Ceidwadwyr hefyd i gyflwyno gwelliannau - boed hynny i newid elfennau o'r mesur neu i geisio dylanwadu ar gynllun Brexit y llywodraeth.

Mae'r pryderon mwyaf ynglŷn â'r mesur yn ymwneud â grym.

Un o'r prif ddadleuon dros adael yr UE oedd hawlio sofraniaeth yn ôl - "taking back control" oedd neges gyson yr ymgyrch dros adael.

Ond mae rhai gwleidyddion yn poeni bod y llywodraeth yn defnyddio'r mesur yma i gipio mwy o rym eu hunain, a hynny am fod y mesur yn rhoi grym sylweddol i weinidogion i newid deddfwriaeth heb ymgynghori â'r senedd.

Mae'r llywodraeth yn dweud bod hynny'n angenrheidiol er mwyn cywiro cyfreithiau sydd yn cyfeirio at sefydliadau Ewropeaidd. Ond y pryder bod dim byd yn y mesur i'w hatal rhag cyflwyno newidiadau pellgyrhaeddol i'r deddfau heb bleidlais seneddol.

Yn syml, mae'r llywodraeth yn gofyn i aelodau i ymddiried ynddyn nhw.

Image caption Pryder Carwyn Jones yw bod dim sicrwydd y bydd grymoedd yn symud i Gaerdydd ar ôl dychwelyd i Lundain o Frwsel

Yn yr un modd mae'r llywodraeth yn dweud bod angen i'r sefydliadau datganoledig dderbyn eu gair y bydd mwy o bŵer yn dod i Gymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon ar ddiwedd y broses.

Ond dyw hynny ddim yn ddigon i Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, sy'n poeni bod grymoedd mewn meysydd datganoledig yn cael eu symud o Frwsel i Lundain heb unrhyw sicrwydd y byddan nhw'n symud wedyn i'r Cynulliad.

Mewn awyrgylch wleidyddol mor fregus, dyw hi ddim yn syndod bod gwleidyddion yn amharod i dderbyn addewidion y llywodraeth, ac fe fydden nhw'n gobeithio gweld newidiadau mewn du a gwyn yn y mesur.

'Tasg enfawr'

Mae Llafur, Plaid Cymru, yr SNP a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud y byddan nhw'n pleidleisio yn erbyn y mesur yn y bleidlais gyntaf ddydd Llun.

Maen nhw'n annhebygol o gael cefnogaeth unrhyw Geidwadwyr yn y cymal cyntaf, ond fe fydd rai o aelodau Theresa May yn sicr o fynd yn ei herbyn pan ddaw hi'n gyfle i drafod manylion y mesur yn yr hydref.

Mae'r dasg o'i blaen yn enfawr.

Os yw Theresa May yn mynd i osgoi niweidio'i hawdurdod drwy golli pleidleisiau seneddol, mae'n debygol iawn y bydd yn rhaid i'r llywodraeth ildio ar rywbeth.

Ddydd Mercher yn ystod y sesiwn cwestiynau i'r prif weinidog, roedd yna awgrym ei bod yn barod i wrando. Ond y cwestiwn yw a fydd o'n ddigon i blesio ei beirniaid.