Cyhoeddi carfan merched Cymru i herio Kazakstan

jayne Ludlow
Image caption Gobaith yr hyfforddwr Jayne Ludlow yw ceisio cyrraedd y gystadleuaeth Ffrainc yn 2019

Mae rheolwr tîm pêl-droed merched Cymru, Jayne Ludlow wedi cyhoeddi'r garfan ar gyfer y gêm ragbrofol gyntaf yn eu hymgais i gyrraedd Cwpan y Byd 2019 yn Ffrainc.

Bydd Cymru yn wynebu Kazakstan oddi cartref yn eu gêm gyntaf yng Ngrŵp 1 ar 17 Medi.

Daeth cadarnhad bod Jess Fishlock yn y garfan, wrth iddi geisio ychwanegu at nifer ei chapiau cenedlaethol ar ôl dod y person cyntaf erioed i ennill 100 o gapiau i Gymru.

Dyma fydd gêm gyntaf Cymru yn y grŵp sydd hefyd yn cynnwys Lloegr, Rwsia a Bosnia & Herzegovina.

Wedi'r cyhoeddiad dywedodd Jayne Ludlow: "Rydym wedi chwarae Kazakstan o'r blaen, rydym wedi astudio'r tîm, maen nhw'n dîm sy'n datblygu fel ni.

"Y cynllun yw cystadlu a chyrraedd Ffrainc. Mae'r grŵp yma o chwaraewyr eisiau bod y cyntaf i wneud hynny."

Carfan Cymru yn llawn:

Claire Skinner (Oxford United), Laura O'Sullivan (Yeovil), Loren Dykes (Bristol City), Hannah Miles (Yeovil), Gemma Evans (Yeovil), Hayley Ladd (dim clwb), Rhiannon Roberts (Doncaster Rovers Belles), Sophie Ingle (Lerpwl), Jess Fishlock (Seattle Reign), Angharad James (Everton), Charlie Estcourt (Reading), Emma Beynon (Abertawe), Chloe Lloyd (Yeovil), Georgia Evans (Bristol City), Nadia Lawrence (Yeovil), Kayleigh Green (Yeovil), Rachel Rowe (Reading), Chloe Chivers (Oxford United), Natasha Harding (Lerpwl), Grace Thomas (dim clwb).