Diwrnod olaf taith y Baton yng Nghymru

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Map taith Baton y Frenhines

Mae Baton y Frenhines ar gyfer Gemau'r Gymanwlad 2018 wedi teithio ar hyd gwifren zip fel rhan o ddiwrnod olaf y daith yng Nghymru.

Y darlledwr Aled Hughes o Radio Cymru wnaeth gludo'r baton i lawr y wifren.

Cyn hynny roedd y baton wedi ymweld â Chastell Dolwyddelan.

Ymhlith y rheini sy'n cario'r baton mae Gerald Williams - nai Hedd Wyn - y morwr Paralympaidd a chwaraewr hoci iâ Steve Thomas a'r cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol Elen Evans.

Image caption Y darlledwr Aled Hughes yn cludo Baton y Frenhines ar y wifren zip

Dechreuodd y baton ei thaith drwy Gymru ddydd Mawrth, ac fe fydd yn mynd ymlaen i ynys Guernsey.

Yn ogystal ag ymweld â Chonwy a Blaenau Ffestiniog mae'r baton yn teithio i Bortmeirion a Phorthmadog, a chartref y bardd Hedd Wyn, Yr Ysgwrn yn Nhrawsfynydd.

Y gyrchfan olaf fydd Gorsaf Bad Achub Cricieth, lle bydd ŵyr ac wyres y cyn-Brif Weinidog, David Lloyd George, a gafodd ei fagu yn Llanystumdwy, yn cael cyfle i gludo'r baton.

Image caption Fe fydd nai Hedd Wyn, Gerald Williams MBE yn cael cyfle i gludo'r Baton ddydd Gwener