Cynnydd yng nghyfradd y marwolaethau o gyffuriau opiad

nodweydd heroin a llwy Image copyright Getty Images

Mae cyfradd y marwolaethau yng Nghymru sy'n gysylltiedig â chyffuriau opiad fel heroin 50% yn uwch nag yn Lloegr, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.

Llynedd roedd 5.08 o bob 100,000 o farwolaethau yng Nghymru yn crybwyll opiadau ar y dystysgrif marwolaeth, o'i gymharu â 3.38 yn Lloegr.

Yn ôl elusennau cyffuriau, mae cefnogaeth ar gael i ddefnyddwyr ond dyw pobl sy'n gaeth ddim yn dewis defnyddio'r gwasanaethau.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod taclo'r mater yn flaenoriaeth.

'Gwahaniaeth mawr'

Mae ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd yn dangos fod cyfradd y marwolaethau yn gysylltiedig â chyffuriau opiad yng Nghymru wedi codi llynedd, o 4.5 ym mhob 100,000 yn 2015.

Roedd hynny'n golygu cynnydd o 141 i 158 yn nifer y marwolaethau, gan gynnal patrwm o dwf cyson yng nghyfradd y marwolaethau.

Dim ond unwaith mae'r gyfradd wedi bod mor uchel â hyn - yn 2012, pan oedd yn 5.4 ym mhob 100,000 - a hynny o'i gymharu â dim ond 0.76 nôl yn 1993.

Dywedodd Geraint Davies o wasanaeth TEDS, sydd yn helpu defnyddwyr cyffuriau yn Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful, fod Cymru'n arwain y ffordd o ran cymorth i ddefnyddwyr heroin ond nad oedd digon o bobl yn derbyn yr help.

Ychwanegodd fod Llywodraeth Cymru bellach yn caniatáu'r defnydd o Naloxone, sy'n gallu cael ei roi i ddefnyddwyr heroin a'u gofalwyr er mwyn lleddfu effaith gorddos.

"Mae hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr o ran lleihau marwolaethau ac yn Lloegr dyw pobman ddim yn gwneud hyn," meddai.

"Mae pobl yn troi at gyffuriau fel arfer oherwydd diffyg cymorth o fewn eu hamgylchedd.

"A'r rhai sydd yn wynebu'r risg mwyaf yw'r rheiny sydd ddim yn defnyddio gwasanaethau - naill ai dyw'r asiantaethau ddim yn cynnig y cymorth maen nhw angen, neu fod ganddyn nhw blant ac maen nhw'n poeni y gallai'r gwasanaethau cymdeithasol ddod yn rhan o bethau."

'Mwy o wasanaethau sy'n lleihau niwed'

Ar raglen Y Post Cyntaf, dywedodd Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, nad oedd y cynnydd yn nifer y marwolaethau yn syndod iddo.

Ond ychwanegodd nad oedd o "wedi sylweddoli bod cymaint o wahaniaeth rhwng Cymru a Lloegr" pan yn mesur nifer y marwolaethau y ffordd hyn.

Dywedodd mai rhan o'r broblem yw bod methiant i argyhoeddi pobl i fynd am driniaeth, er eu bod ar gael.

"'Dan ni ddim yn gallu perswadio pobl sy'n ddibynnol ar gyffuriau anghyfreithlon i ddod i mewn i gael triniaeth ac adferiad," meddai.

"Dwi'n meddwl ei bod hi'n angenrheidiol rhoi mwy o wasanaethau sy'n lleihau niwed, dwi'n meddwl mai fanno mae'r gap."

Ychwanegodd bod yr ystadegau'n gwneud iddo deimlo'n "gryfach" o blaid cyfreithloni cyffuriau.

Image copyright Gareth Joseph
Image caption Mae Gareth Joseph wedi bod yn gwella o'i ddefnydd o heroin ers wyth mlynedd

Castell-nedd Port Talbot yw'r ardal oedd â'r gyfradd uchaf o farwolaethau o gyffuriau opiad yng Nghymru, gyda 11.3 ym mhob 100,000 yn 2016.

Yn ail roedd Abertawe gyda 9.8 marwolaeth ym mhob 100,000, gyda Cheredigion yn drydydd â 9.4 marwolaeth ym mhob 100,000.

Ar y llaw arall doedd dim un farwolaeth y llynedd ym Merthyr Tudful, ardal sydd wedi gweld cyfradd uchel o farwolaethau o ganlyniad i gyffuriau opiad yn y gorffennol.

Yn ôl Gareth Joseph, oedd yn arfer bod yn gaeth i heroin ac sydd nawr yn gweithio i grŵp Recovery Cymru yng Nghaerdydd, mae angen rhagor o wasanaethau mewn rhannau mwy gwledig o'r wlad.

"Os 'dych chi'n byw ym Mhowys falle fod rhaid i chi fynd ar fws am 30-40 milltir i gael cymorth. Pwy sydd am wneud hynny?" meddai.

"Mae'n rhaid i chi ddod â'r gefnogaeth yn agosach at y bobl sydd ei angen. Mae'r broblem yn cynyddu oherwydd tlodi cymdeithasol."

'Pwyso a mesur'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wrthi'n adolygu tystiolaeth ac ymchwil yn ymwneud â chanolfannau wedi'u goruchwylio i gymryd cyffuriau.

Ychwanegodd eu bod yn gwneud popeth posib i ddarparu cefnogaeth a thriniaeth yn gyflym ac i gyrraedd y rheiny oedd ddim mewn cysylltiad â gwasanaethau cam-drin cyffuriau.

"Rydym yn parhau i gyflwyno Naloxone (cyffur sydd yn gwyrdroi effeithiau gorddos o opiadau am gyfnod) ar draws Cymru er mwyn ei ddarparu i'r rheiny sydd â risg uchel o orddos," meddai.

"Byddwn yn pwyso a mesur ystadegau'r ONS yng Nghymru yn fanylach, gan ystyried daearyddiaeth, sylweddau a dylanwadau sefyllfa a byddwn yn gweithio'n agos gyda grwpiau lleihau niwed o fewn byrddau iechyd er mwyn llywio camau pellach a dychwelyd i sefyllfa lle roedd nifer y marwolaethau o gyffuriau yng Nghymru yn gostwng."

Pynciau Cysylltiedig