Abertawe 0-1 Newcastle

Tammy Abraham Image copyright Getty Images
Image caption Methodd Tammy Abraham gyfle gwych i Abertawe yn yr ail hanner

Collodd Abertawe i Newcastle mewn gêm fywiog ar y Liberty brynhawn Sul.

Hon oedd gêm gyntaf y tîm ers i'r ffenestr drosglwyddo gau, ac roedd cyfle i'r cefnogwyr weld Renato Sanches - ymunodd ar fenthyg o Bayern Munich - yn y cnawd.

Ond i chwaraewr arall sydd ar fenthyg - Tammy Abraham - ddaeth y cyfle gorau, wrth iddo fynd heibio i'r golwr wedi 62 munud, ond i Jamaal Lascelles glirio ar y foment olaf.

Lascelles gafodd y gair olaf 15 munud yn ddiweddarach, wrth iddo lamu'n uwch nag amddiffyn Abertawe i benio i gefn y rhwyd.

Mae Abertawe yn 15fed yn Uwch Gynghrair Lloegr, gydag un fuddugoliaeth o'u pedair gêm agoriadol.

Pynciau Cysylltiedig