Galw am ddatganoli hawliau iaith wedi cwyn cynghorydd

llanbed Image copyright Google
Image caption Dywedodd Elin T Jones fod y ddynes wedi gwneud y sylw wrthi tra'i bod hi allan yn Llanbed gyda'i merch

Mae angen ailedrych ar y deddfau sydd yn amddiffyn siaradwyr Cymraeg os oes "amharodrwydd" yn San Steffan i "ddiogelu hawliau siaradwyr", yn ôl cyn-Gomisiynydd Cydraddoldeb Hiliol Cymru.

Daw sylwadau'r Parchedig Aled Edwards wedi i fenyw yn Llanbedr Pont Steffan honni iddi gael ei beirniadu am siarad yr iaith i'w phlentyn.

Cafodd profiad Elin T Jones, sydd hefyd yn gynghorydd tref, sylw eang ar y cyfryngau cymdeithasol.

Dywedodd y Parch Edwards ei fod yn "lled dybio" bod y ddeddfwriaeth ar y Gymraeg yng Nghymru ar hyn o bryd ddim yn ddigon cryf.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
'Sioc' dynes wedi sylwadau honedig am y Gymraeg

Ddydd Sadwrn fe bostiodd Ms Jones neges ar Twitter yn dweud: "Just got asked by a lady in a shop why I don't speak English and not foreign muck to my baby. I was speaking Welsh. In Wales. #givemestrength."

Erbyn bore ddydd Llun roedd y neges wedi cael ei haildrydar dros 10,000 o weithiau, gyda llawer yn gadael sylwadau o gydymdeimlad iddi.

Dywedodd y cynghorydd wrth Cymru Fyw ei bod wedi ymateb i'r ddynes "yn gwrtais" i esbonio mai Cymraeg yr oedd hi'n siarad â'i phlentyn, a bod y ddynes wedi cerdded i ffwrdd wedyn heb ddweud gair.

"Falle bod hi'n meddwl mod i'n siarad Pwyleg, achos mae 'na lawer o bobl Pwyleg yn byw yn ardal Llanbed, a dwi wedi clywed pobl yn dweud wrthyn nhw o'r blaen 'can't you just speak English'," meddai.

Image caption Mae'r cynghorydd yn dweud iddi gael negeseuon o gefnogaeth o bob cwr o'r byd yn dilyn ei thrydariad

"Ond does dim ots pa iaith maen nhw'n siarad, does dim esgus i ddweud hynny wrth unrhyw un. Dydw i ddim yn sefyll am discrimination mewn unrhyw ffordd."

Er y sioc o weld cymaint o sylw mae'r trydariad wedi ei gael, meddai, mae'n dweud fod pobl o bob cwr o'r byd wedi cysylltu ers hynny i rannu profiadau tebyg y maen nhw wedi ei gael.

"Mae'n rhywbeth sy'n digwydd ym mhobman. Mae angen sefyll lan a dweud bod e ddim yn oce i ddweud wrth rywun pa iaith ddylen nhw fod yn siarad gyda'u plant neu eu teulu.

"Mae angen mwy o tolerance."

'Diogelu rhyddid'

Ychwanegodd Ms Jones ei bod yn ystyried sylwadau o'r fath yn "drosedd casineb mewn ffordd", ond fod "dim lot mae'r heddlu yn gallu gwneud".

"Falle bod angen i'r Cynulliad neu San Steffan edrych mwy i mewn i'r hawliau, a beth sy'n gallu gweithio ar gyfer pobl sy'n cael hyn," meddai.

"Byddai [sylwadau o'r fath] yn gallu cael effaith fawr ar rai pobl."

Mae ganddi gyngor hefyd i unrhyw un sydd yn canfod eu hunain mewn sefyllfa debyg yn y dyfodol.

"Mae'n rhaid cadw'n calm - peidio rhegi a gweiddi achos wnaiff neb gymryd sylw i chi wedyn - a rhoi'r addysg yna iddyn nhw, mai fy musnes i yw hyn ac nid rhywun arall."

Image caption Mae'r Parchedig Aled Edwards wedi cwestiynu i ba raddau y mae gan y Cynulliad hawl i ddeddfu yn y maes

Dywedodd y Parch Edwards, sy'n brif weithredwr ar y grŵp eglwysig Cytûn, bod sylw negyddol diweddar i'r Gymraeg - fel eitem ddadleuol rhaglen Newsnight a pholisi honedig cwmni Sports Direct - yn rhan o duedd Brydeinig ers y refferendwm o blaid Brexit.

"Mae o'n disgyn i batrwm ehangach ers mis Mehefin y llynedd, lle mae pobl erbyn hyn yn teimlo bod ganddyn nhw rwydd hynt a hawl i sarhau pobl eraill," meddai.

Dywedodd fod rhaid "gofyn cwestiynau am y math o ddeddfau Cymreig" sy'n amddiffyn siaradwyr Cymraeg, gan ei fod yn credu mai deddfau yn San Steffan sy'n parhau i warchod hawliau siaradwyr yn bennaf.

Ond pe bai angen deddfu ymhellach i amddiffyn hawliau siaradwyr, dywedodd nad oes sicrwydd y gallai'r Cynulliad yng Nghaerdydd wneud hynny.

"Mae'n gwestiwn dyrys - i ba raddau mae modd i'r Cynulliad Cenedlaethol ddeddfu i ddiogelu rhyddid rhywun i siarad Cymraeg, neu yn wir i atal pobl eraill rhag troseddu yn erbyn pobl sy'n siarad Cymraeg?

"Os nad ydy San Steffan yn fodlon gwireddu ein dyheadau ni a'n caniatáu i fwynhau'n iaith mewn heddwch, dwi'n credu dylid trosglwyddo'r pwerau perthnasol fel bod modd gwneud hynny."

Defnyddio pwerau

Yn ôl y bargyfreithiwr Emyr Lewis, mae rhai pethau gallai'r Cynulliad Cenedlaethol eisoes wneud gyda'u pwerau presennol.

"Y cwestiwn yw ai trwy wneud trosedd o ymddygiad [sy'n ddirmygus o'r Gymraeg] mae bwrw'r maen i'r wal," meddai.

Dywedodd bod mwy o ffyrdd i wneud hynny, fel codi ymwybyddiaeth am y Gymraeg fel iaith gynhenid a hyrwyddo amlieithrwydd, a bod lle i addysg a'r cyfryngau wneud hynny.

Image caption Mae gan Lywodraeth Cymru nod o gael un miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050

Ychwanegodd Mr Lewis fod ewyllys gwleidyddol yn hanfodol i unrhyw weithredu pellach yn y maes.

"Dwi'n credu byddai'n gam ardderchog pe bai Cymru'n llwyddo i greu sefyllfa ble mae casineb iaith yn cael yr un fath o ddirmyg â chasineb ar sail hil neu rywedd," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae sylwadau fel hyn yn gwbl annerbyniol.

"Rydym am i fwy o bobl siarad Cymraeg ac rydym wedi lansio cynlluniau uchelgeisiol i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050."