Cymru'n codi pum safle i rif 13 ar restr detholion FIFA

Coleman
Image caption Mae gan garfan Chris Coleman ddwy gêm yn weddill yng Ngrŵp D

Mae Cymru wedi codi pum safle i rif 13 ar restr detholion FIFA yn dilyn y ddwy fuddugoliaeth dros Awstria a Moldofa ym mis Medi.

Cymru yw'r tîm Prydeinig uchaf ar y rhestr gyda Lloegr yn 15fed, Gogledd Iwerddon yn 20fed a'r Alban yn 43fed.

Mae'r ffaith fod Cymru wedi codi ar y rhestr yn golygu y gallan nhw wynebu llwybr haws i gyrraedd Cwpan y Byd yn Rwsia pe bydden nhw'n cyrraedd y gemau ail gyfle.

Mae Cymru yn ail yn Grŵp D ar hyn o bryd, bedwar pwynt y tu ôl i Serbia ar y brig gyda dwy gêm yn weddill.

Bydd Cymru yn teithio i Georgia ar 6 Hydref cyn herio Gweriniaeth Iwerddon yng Nghaerdydd dridiau'n ddiweddarach.

Pynciau Cysylltiedig