Dau wedi anafu yn dilyn tân ar gwch ym marina Caergybi

marina caergybi Image copyright Robin Drayton/Geograph

Mae dau berson wedi cael eu cludo i'r ysbyty yn dilyn tân ar gwch ym marina Caergybi.

Cafodd Gwasanaeth Tan ac Achub Gogledd Cymru eu galw toc wedi 18:30, ac fe wnaeth criwiau o Gaergybi a Rhosneigr fynychu'r digwyddiad.

Dywedodd y Gwasanaeth Ambiwlans fod dyn a dynes wedi dioddef mân anafiadau a'u bod wedi eu cludo i Ysbyty Gwynedd.

Doedd y cwch 30 troedfedd ddim yn y dŵr ar y pryd, ond yn hytrach yn iard y marina.