Y newidiadau yn y byd addysg mewn 20 mlynedd

Carla athrawes
Image caption Roedd Carla Barlett yn ddisgybl mewn ysgol uwchradd yn y Cymoedd, ac mae nawr wedi dychwelyd i fod yn athrawes yn yr ysgol honno

Pan oedd Carla Bartlett yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun y Cymer yn y Rhondda, roedd y prif benderfyniadau am addysg yng Nghymru yn cael eu gwneud gan weinidogion Llywodraeth y DU.

Doedd y drefn ddim yn union fel y system dros y ffin, ac addysg Gymraeg oedd yr elfen wahanol amlycaf.

Ond yn gyffredinol roedd y fframwaith ar gyfer ein hysgolion a phrifysgolion yn debyg i Loegr.

Ugain mlynedd yn ddiweddarach, ac mae systemau addysg pob rhan o'r Deyrnas Unedig wedi mynd i gyfeiriadau gwahanol iawn.

Ac yn gynnar iawn ar y daith ddatganoli, fe wnaed penderfyniadau allweddol a dadleuol ar addysg ym Mae Caerdydd.

Image caption Rhifedd a llythrennedd yw'r pwyslais wrth brofi disgyblion erbyn hyn

Yn 2001 daeth y cyhoeddiad y byddai tablau cynghrair ysgolion yn cael eu dileu, ac yn fuan wedi hynny cafwyd gwared ar brofion i blant 11 ac 14 oed.

Penderfyniadau digon poblogaidd ar y pryd, ond degawd yn ddiweddarach y farn ymhlith nifer yn y byd addysg, gan gyfeirio at ganlyniadau TGAU siomedig, oedd bod safonau wedi dioddef.

Cafodd profion newydd eu cyflwyno, a phwyslais mawr ar rifedd a llythrennedd.

Mae yna gefnogaeth o hyd i'r cyfnod sylfaen - ffordd arloesol o ddysgu'r plant ifancaf gyda'r pwyslais ar chwarae.

Ond dydy'r dystiolaeth hyd yma ddim yn dangos bod y polisi yn llwyddo i gyrraedd y nod o ddileu'r gagendor rhwng y plant tlotaf a'u cyd-ddisgyblion.

Mae asesu perfformiad y drefn addysg dan ddatganoli yn gymhleth, ac mae sawl llinyn mesur posib.

Image caption Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu dilyn ei chwys ei hun o safbwynt ffioedd prifysgolion

Yn y blynyddoedd diwethaf mae profion rhyngwladol PISA wedi dod yn gynyddol ddylanwadol, ond mae'r rheiny wedi gosod Cymru ar waelod tabl gwledydd y Deyrnas Unedig.

Tu hwnt i'r ysgol mae colegau addysg bellach a phrifysgolion yn rhan o stori addysg ers y refferendwm wrth gwrs.

Ym maes ariannu myfyrwyr prifysgol mae Cymru wedi dilyn polisïau trawiadol a gwahanol iawn i weddill y Deyrnas Unedig.

A beth am yr heriau ar gyfer y dyfodol?

I Carla, sydd bellach yn arwain yr adran Gymraeg yn yr ysgol ble roedd hi'n ddisgybl, denu a chadw athrawon disglair yw un o'r sialensiau pennaf.

Newid mawr

Mewn gwlad oedd yn arfer cynhyrchu mwy o athrawon nag oedd eu hangen, bellach mae'r sefyllfa yn ôl rhai yn argyfwng.

Ac mae un o'r newidiadau pennaf ers dechrau datganoli ar y gorwel - cwricwlwm newydd sbon i gymryd lle trefn sydd wedi bod yn ei le ers tri degawd.

Yn debyg i ddechrau datganoli, mae'r gobeithion yn uchel.

Ond buodd sawl gwers hefyd i ddangos mai'r gweithredu sy'n allweddol.