Pro14: Ulster 27-20 Scarlets

Andrew Trimble

Fe wnaeth y Scarlets frwydro nôl yn ail hanner y gêm yn erbyn Ulster i unioni'r sgôr i 20 pwynt yr un cyn ildio cais yn y munudau olaf.

Gyda phum munud yn weddill o'r gêm fe wnaeth John Andrew sgorio cais hwyr i'r tîm cartref, er i'r Scarlets fynd ar y blaen ddwy waith yn ystod y gêm.

Johnny McNicholl a Jonathan Davies sgoriodd y ceisiau i'r Scarlets a oedd yn ffefrynnau i ennill y gêm ar ôl sgorio 13 cais yn y ddwy gêm ddiwethaf yn y Pro 14.

Fe giciodd Leigh Halfpenny yn gywir dair gwaith i ychwanegu at bwyntiau'r Scarlets.