Y farn yn y sir oedd yn gwrthwynebu datganoli fwyaf

Image caption Dim ond 32.1% o etholwyr Sir Fynwy oedd o blaid datganoli yn 1997

I nodi 20 mlynedd ers y refferendwm datganoli ym 1997, mae Cymru Fyw yn cyhoeddi cyfres o erthyglau yn edrych yn ôl ar hanes dyfodiad y Cynulliad, a'r newidiadau sydd wedi digwydd yng Nghymru ers hynny.

Yn Sir Fynwy y cafwyd y gwrthwynebiad mwyaf i ddatganoli, ac ein gohebydd gwleidyddol Cemlyn Davies aeth yno i gasglu'r farn erbyn hyn.

"Roedden ni jyst eisiau bod yn rhan o Loegr ac roeddwn i'n meddwl y byddai'n anodd cael dwy senedd gydag un yn brwydro yn erbyn y llall."

Jill Blewett - un o aelodau Clwb Golff Trefynwy - yn egluro pam y gwnaeth hi bleidleisio yn erbyn datganoli ym 1997.

Ar ymweliad â'r cwrs fe holais i sawl un am y refferendwm.

Fe bleidleisiodd un o gapteiniaid y clwb yn erbyn hefyd. Doedd Jennifer Neale "ddim yn gweld rheswm am yr holl wariant".

Image caption Byddai Jennifer Neale a Jill Blewett yn pleidleisio dros ddiddymu'r Cynulliad pe bai cyfle

Ac nid nhw oedd yr unig ddwy yn Sir Fynwy i ddweud 'Na' ym 1997.

Tra bod hanner awdurdodau lleol Cymru wedi pleidleisio yn erbyn sefydlu'r Cynulliad, yma y cafwyd y gwrthwynebiad mwyaf, gyda 67.9% yn anghytuno â datganoli.

'Ar ei hôl hi'

20 mlynedd yn ddiweddarach felly, ydy Jill a Jennifer wedi eu hargyhoeddi?

"Dydw i ddim yn gweld unrhyw fantais sydd wedi dod o ddatganoli," meddai Jennifer.

"O edrych ar addysg a'r gwasanaeth iechyd, dwi ddim gweld unrhyw welliant. Rwy'n credu ein bod ni ar ei hôl hi i o gymharu â Lloegr."

Fe ofynnais iddi ai bai datganoli oedd hynny ynteu bai'r blaid sydd mewn grym.

"Dydy'r llywodraeth ddim wedi helpu," meddai.

Mae Jill hefyd yn glynu at ei phleidlais wreiddiol a byddai'r ddwy, medden nhw, yn pleidleisio dros ddiddymu'r Cynulliad pe bai'r cyfle hwnnw ar gael.

Efallai o ddiddordeb...

Ymlaen at dwll nesa'r cwrs ble mae'r olygfa - a'r farn - yn dra gwahanol.

"Dwi'n credu bod datganoli wedi bod yn dda i Gymru," meddai Lindsey Watkins yn frwdfrydig.

"O'n safbwynt i fel Cymraes mae e wedi rhoi hunaniaeth i mi. Mae gen i lywodraeth sy'n rheoli fy ngwlad fy hun ac mae hynny'n hyfryd."

'Elwa o ddatganoli'

Wedi cael gofal ysbyty ar y naill ochr i'r ffin mae Elaine Stockwell hefyd yn frwd dros ddatganoli.

"Rydyn ni wedi cael triniaeth dda iawn mewn ysbytai yng Nghymru a galla i gymharu hynny gyda'r driniaeth rydyn ni wedi ei chael yn Lloegr ac rydyn ni wedi elwa o ddatganoli," meddai.

Image caption Mae Elaine Stockwell a Lindsey Watkins o'r farn bod datganoli wedi bod o fudd i'r wlad

I neuadd bentre' Llanfihangel Troddi, ble mae 40 o aelodau Clwb Bridge Trefynwy'n astudio'u cardiau.

"Fe bleidleisiais i o blaid datganoli ac ar y cyfan rwy'n credu bod pethau wedi mynd yn dda," meddai Julie Davies.

"Mae'n beth da bod gan Gymru ei llywodraeth ei hun."

'Haen arall o fiwrocratiaeth'

Ond mae Julie'n credu bod ei barn hi'n un leiafrifol yn y cyffiniau hyn.

"Mae gennym ni lawer o bobl o Loegr yn byw yn yr ardal sydd efallai'n anfodlon bod datganoli wedi digwydd, ond os ydych chi'n dod i'n gwlad ni, mae'n rhaid i chi ddilyn ein rheolau ni," meddai.

Image caption Fe bleidleisiodd Tony Harris yn erbyn datganoli yn 1997, tra bo Julie Davies wedi'i gefnogi

Mi fyddai'n annheg dod i'r casgliad bod pob un sydd wedi croesi'r ffin i Sir Fynwy i fyw yn erbyn datganoli, ac mae yna Gymry yn byw yma hefyd a bleidleisiodd 'Na' ym 1997.

Yn eu plith mae Tony Harris, oedd o'r farn nad oedd angen "haen arall o fiwrocratiaeth", ac mae ganddo'i bryderon o hyd am economi'r Gymru ddatganoledig.

Yn 2011 Sir Fynwy oedd yr unig awdurdod lleol i bleidleisio yn erbyn rhoi pwerau deddfu llawn i'r Cynulliad pan bleidleisiodd 50.6% o etholwyr y sir yn erbyn y syniad.

Wedi treulio rhai oriau'n sgwrsio gyda thrigolion lleol mae'n glir bod datganoli'n parhau i hollti barn, 20 mlynedd ar ôl i gynifer ohonyn nhw fynegi eu gwrthwynebiad.

Straeon perthnasol