Y Bencampwriaeth: Caerdydd 1-1 Sheffield Wednesday

Sol Bamba Image copyright Getty Images
Image caption Yr amddiffynnwr Sol Bamba yn dathlu ei gôl yn y munud olaf i Gaerdydd

Fe wnaeth gôl munud olaf Sol Bamba achub pwynt i Gaerdydd, gan atal Sheffield Wednesday rhag ennill tair gêm yn olynol yn y Bencampwriaeth.

Aeth yr ymwelwyr yn haeddiannol ar y blaen ar ddiwedd yr hanner cyntaf wrth i Gary Hooper benio croesiad Adam Reach i gefn y rhwyd.

Ond llwyddodd Bamba i achub pwynt i'r Adar Gleision yn amser ychwanegol wrth iddo ergydio heibio i Keiren Westwood o ychydig lathenni.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Caerdydd yn disgyn i'r trydydd safle yn y tabl, ond ar yr un pwyntiau a Leeds United ar y brig.