Adran Dau: Morecambe 2-1 Casnewydd

Kevin Ellison Image copyright Rex Features

Sgoriodd Kevin Ellison ddwywaith i Morecambe wrth iddyn nhw drechu Casnewydd brynhawn Sadwrn.

Aeth y tîm cartref ar y blaen wedi 34 munud wrth i Ellison gael gôl hawdd ar ôl i ergyd Elliot Osborne gael ei harbed gan y golwr Joe Day.

Roedd y Cymry yn gyfartal 90 eiliad yn ddiweddarach wrth i Scot Bennett rwydo o groesiad Mickey Demetriou.

Ond fe aeth Morecambe ar y blaen unwaith eto gyda 10 munud yn weddill wrth i Ellison gael cyffyrddiad bychan ar ergyd Adam Campbell cyn curo Day yn y gôl.