Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 1-1 Guiseley

Sam Wedgbury Image copyright Rex Features
Image caption Sam Wedgbury oedd yr arwr i'r clwb o ogledd Cymru

Fe wnaeth Sam Wedgbury sgorio gôl hwyr i Wrecsam i atal Guiseley rhag ennill eu gêm gyntaf o'r tymor oddi cartref.

Aeth yr ymwelwyr ar y blaen ar ôl 27 munud, gydag ergyd Will Hatfield yn taro Raul Correia cyn canfod cornel y rhwyd.

Ond fe lwyddodd Wedgbury i achub pwynt i Wrecsam gan daro foli heibio i'r golwr Joe Green yn amser ychwanegol.

Roedd y tîm cartref yn lwcus i fod yn y gêm bryd hynny, wedi i Kayode Odejayi benio dros y traws i Guiseley yn yr ail hanner pan ddylai fod wedi sgorio.