Cyn-ysgrifennydd Cymru: Y Cynulliad â 'phroblemau mawr'

Cynulliad
Image caption Cafodd y Cynulliad ei ffurfio yn 1999, ddwy flynedd wedi'r refferendwm datganoli

Mae Cymru'n dal yn dlotach na gweddill y DU ac mae ei gwasanaethau iechyd ac addysg yn waeth er iddi gael ei llywodraeth ei hun, medd cyn-ysgrifennydd gwladol Cymru.

Dywedodd Ron Davies, arweiniodd yr ymgyrch dros ddatganoli 20 mlynedd yn ôl, nad yw'r Cynulliad wedi cyflawni newid.

"Mae wedi'i sefydlu nawr ond mae'n rhaid iddo ofyn cwestiynau anodd iawn i'w hun," meddai.

"Mae angen mynd i'r afael â phroblemau mawr."

'Dim canlyniadau'

Roedd Mr Davies yn ysgrifennydd gwladol Cymru yn llywodraeth Lafur Tony Blair, ond mae bellach yn aelod o Blaid Cymru.

"Fel ry'n ni'n ei weld gyda thrafodaethau Brexit, mae materion Cymreig yn cael sylw ar y lefel uchaf, felly mae hynny'n rhywbeth positif sydd wedi dod o ganlyniad i'r Cynulliad," meddai wrth raglen Sunday Supplement BBC Radio Wales.

"Ond pwrpas datganoli oedd creu newidiadau - a mesur hynny fyddai gwell wasanaethau iechyd ac addysg a pherfformiad economaidd gwell.

"Yn anffodus, dros yr 20 mlynedd diwethaf rydyn ni wedi adeiladu'r strwythur ond heb weld y canlyniadau."

Image copyright Getty Images
Image caption Ron Davies oedd yn arwain yr ymgyrch dros ddatganoli yn 1997

Cyn-arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Rod Richards wnaeth arwain yr ymgyrch yn erbyn datganoli, ac mae'n dweud nad yw gweinidogion Cymru wedi llwyddo i newid ei feddwl ar hynny ers i'r Cynulliad gael ei ffurfio yn 1999.

"Er 'mod i yn erbyn y peth, pan ddigwyddodd roeddwn i wir eisiau iddo weithio oherwydd doeddwn i ddim eisiau i wleidyddiaeth Cymru edrych fel rhyw fath o jôc," meddai.

'Problemau heb eu cyffwrdd'

Ychwanegodd bod y Cynulliad "heb ddelifro ar wasanaethau cyhoeddus", gan roi'r bai am hynny ar y Prif Weinidog Rhodri Morgan, oedd eisiau creu gwahaniaeth amlwg rhwng Llafur y DU a Llafur Cymru, meddai.

"O ran polisi economaidd, y pethau mawr oedd angen eu gwneud yn syth oedd delio â thwneli Brynglas, adeiladu maes awyr priodol, diwygio llywodraeth leol a chyfuno gofal cymdeithasol a'r gwasanaeth iechyd," meddai.

"Mae'r rheiny yn faterion mawr, a dydyn nhw heb eu cyffwrdd am eu bod yn rhy anodd a dyw'r gweinidogion ym Mae Caerdydd ddim o'r safon sydd ei angen."

Image caption Mae'r cyn-Geidwadwr, Rod Richards, bellach yn aelod o UKIP

Dywedodd cyn-arweinydd Plaid Cymru, yr Arglwydd Dafydd Wigley wrth y rhaglen bod cael Cynulliad yn cynrychioli pobl Cymru yn well na phan roedd "trafaeliwr yn dod i Gymru ar ran Llywodraeth y DU".

"Mae 'na lwyddiannau wedi bod ers i ni gael pwerau llawn i ddeddfu, fel gwasanaethau cymdeithasol a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol," meddai.

"Heb os, y gwendid ydy'r economi. Rydyn ni angen polisïau fyddai'n ysgogi pobl i sefydlu busnesau a rhoi'r hyder i fusnesau ehangu.

"Dydyn ni heb gymryd y baich o drethi lleol oddi ar fusnesau bychan, a dyna'r math o beth y dylai'r Cynulliad fod yn ei wneud.

"Dyna ble mae'r methiant a nes y byddwn yn cael yr economi'n iawn, dydyn ni ddim am gael unrhyw beth arall yn iawn."

Straeon perthnasol