Huw Edwards: 'Gwaith i'w wneud' i esbonio datganoli

Huw Edwards

Mae gan y cyfryngau "lawer o waith i'w wneud" i esbonio datganoli yng Nghymru yn ôl cyflwynydd y BBC, Huw Edwards.

Yn siarad 20 mlynedd ers datganoli, dywedodd y darlledwr fod "brwydrau" wrth geisio esbonio pwy sy'n gyfrifol am beth.

Ond ychwanegodd fod dealltwriaeth yn cynyddu.

Dywedodd: "Os ydych chi'n gofyn pwy sy'n rheoli'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru mae mwy o bobl yn deall mai Llywodraeth Cymru sydd - pum mlynedd yn ôl dwi'n meddwl y byddai'n ddarlun gwahanol."

Yn 1997 pleidleisiodd mwyafrif bychan o blaid datganoli yng Nghymru, ac yn ôl Mr Edwards er bod y mwyafrif wedi derbyn datganoli, mae angen mwy o eglurder am ba lywodraeth sy'n rheoli beth.

Dywedodd bod cyfrifoldeb ar newyddiadurwyr i esbonio cyfrifoldebau gwahanol Bae Caerdydd a San Steffan.

Gorfod 'atgoffa' cydweithwyr

Ond dywedodd bod y wasg "Brydeinig" weithiau yn methu a deall bod systemau gwahanol mewn grym, a'i fod yn gorfod "atgoffa" cydweithwyr "bob dydd".

"Yn aml dwi'n gweld straeon yn rhannau o'r wasg a'r cyfryngau sy'n awgrymu nad yw'r newyddiadurwr wedi deall y ffaith bod gyda ni systemau gwahanol mewn grym," meddai.

Mewn rhaglen ddogfen newydd, '20 Years of Power with Huw Edwards', mae'r darlledwr yn ymchwilio i'r newidiadau yng Nghymru ers datganoli mewn meysydd fel iechyd, addysg, yr economi a'r iaith Gymraeg.

Dywedodd bod dau brif bersbectif gan bobl ar ddatganoli - un sy'n derbyn y Cynulliad a'r llywodraeth a'u dyfodol, ac un sy'n cwestiynu os yw wedi gwneud "gwaith da".

'Llwyddiannau nodedig'

Ychwanegodd ei fod yn meddwl y byddai "Cymru yn edrych yn wahanol iawn heddiw" pe bai pobl wedi pleidleisio yn erbyn datganoli.

"Dwi'n meddwl bod pobl yn gofyn cwestiynau am berfformiad," meddai.

"Yn sicr mae rhai llwyddiannau nodedig - pan rydych chi'n edrych ar bresgripsiynau am ddim a thrafnidiaeth i bobl hŷn.

"Ond mae cwestiynau am safonau addysg, a chwestiynau am safonau gofal iechyd hefyd.

"Mae perfformiad yn gwestiwn ar wahân i os ydyn nhw'n meddwl mai dyma'r system orau i Gymru."

Wrth drafod Brexit dywedodd Mr Edwards bod heriau i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys a fydd pwerau sydd ym Mrwsel ar hyn o bryd yn dychwelyd i Fae Caerdydd.

Dywedodd fod Brexit yn "gur pen mawr" i'r llywodraeth: "Bydd llawer o bwerau yn dod yn ôl o Frwsel.

"Yn amlwg bydd San Steffan eisiau cadw eu gafael ar nifer o'r pwerau yna, neu o leiaf cymryd eu hamser wrth benderfynu pryd ddylai'r pwerau gael eu trosglwyddo."

Gallwch wylio Huw Edwards: Datganoli 20 a 20 Years of Power with Huw Edwards ar yr iPlayer.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol