Cyhoeddi rhestr fer Gwobr Gerddoriaeth Gymreig

Huw Stephens
Image caption DJ Radio Cymru a Radio 1 Huw Stephens oedd un o'r bobl wnaeth sefydlu'r wobr

Drwy gydol y dydd cafodd enwau'r bandiau sydd wedi cael eu henwebu ar restr fer Gwobr Gerddoriaeth Gymreig eu cyhoeddi.

Mae'r wobr, a gafodd ei sefydlu nôl yn 2011 gan DJ Radio Cymru a Radio 1, Huw Stephens a'r arbenigwr ar y diwydiant, John Rostron yn dathlu rhagoriaeth cerddoriaeth newydd yng Nghymru.

Dywedodd Huw Stephens: "Bu'n flwyddyn gref o ran albwms yng Nghymru. Mae'r rhestr fer yma'n adlewyrchu hynny ac ni allwn aros i ddarganfod pa albwm y mae'r beirniaid yn ei ddewis.

"Mae'r wobr wedi tyfu mewn statws dros y blynyddoedd, ac erbyn hyn fe welwn ni'r wasg ryngwladol a'r diwydiant cerddoriaeth yn cydnabod y teitl fel gwobr bwysig a pharchus," meddai.

Yr artistiaid sydd ar y rhestr fer yw:

  • Gruff Rhys - 'Set Fire To The Stars'
  • Georgia Ruth - 'Fossil Scale'
  • Bendith - 'Bendith'
  • Baby Queens - 'Baby Queens'
  • Mammoth Weed Wizard Bastard - 'Y Proffwyd Dwyll'
  • H Hawkline - 'I Romanticize'
  • Kelly Lee Owens - 'Kelly Lee Owens'
  • The Gentle Good - 'Ruins/Adfeilion'
  • Toby Hay - 'The Gathering'
  • Cotton Wolf - 'Life in Analogue'
  • HMS Morris - 'Interior Design'
  • Sweet Baboo - 'Wild Imagination'

Pynciau Cysylltiedig