Joe Ledley'n arwyddo i Derby County

ledley Image copyright Getty Images
Image caption Joe Ledley (ar y dde) gyda Gareth Bale a Chris Gunter

Daeth cadarnhad fod clwb pêl-droed Derby County wedi arwyddo chwaraewr canol cae Cymru, Joe Ledley, ar gytundeb tan Ionawr 2018.

Roedd ganddyn nhw'r hawl i'w arwyddo y tu allan i'r ffenest drosglwyddo gan nad oedd Ledley ar gytundeb gyda chlwb arall.

Bu'r chwaraewr 30 oed heb glwb ers gadael Crystal Palace ym mis Mehefin ar ddiwedd tair blynedd yno.

Cafodd Ledley ei ddewis gan Chris Coleman yng ngharfan Cymru ar gyfer y gemau yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd yn erbyn Awstria a Moldofa yn gynharach y mis hwn, ond ni chwaraeodd yn yr un o'r ddwy gêm.