Chwaraewr yn beirniadu tîm hyfforddi'r Llewod

Gatland a Howley Image copyright Getty Images
Image caption Mae Warren Gatland a Rob Howley wedi cydweithio gyda Chymru ers 2008

Mae un o chwaraewyr Y Llewod wedi beirniadu tîm hyfforddi Cymru, gan ddweud y gallan nhw fod wedi curo Seland Newydd o 3-0 yn y gyfres pe bai'r tîm â gwell arweiniad.

Fe wnaeth blaenasgellwr Iwerddon, Sean O'Brien, ddechrau'r tri phrawf yn y gyfres - orffennodd yn gyfartal.

Ond dywedodd bod hyfforddi gwael wedi atal Y Llewod rhag ennill y daith.

Yn ogystal â'r prif hyfforddwr Warren Gatland, mae O'Brien yn arbennig o feirniadol o hyfforddwr ymosod Y Llewod - ac is-hyfforddwr Cymru - Rob Howley.

Image copyright Getty Images
Image caption Fe orffennodd y gyfres yn gyfartal 1-1

"Gyda'r chwaraewyr oedd gennym ni, dylen ni fod wedi ennill y gyfres," meddai.

Dywedodd O'Brien bod diffyg strwythur i'r hyfforddi ar ddechrau'r daith a rhwng y gemau prawf, a bod dau o'r chwaraewyr - Johnny Sexton ac Owen Farrell - wedi cael mwy o ddylanwad na Howley ar y ffordd roedd y tîm yn ymosod.

'Cwestiynau i'w hateb'

"Mae gan yr hyfforddwyr lawer o gwestiynau i'w hateb," meddai.

"Rwy'n meddwl bod Rob wedi ei chael yn anodd cael y grŵp i ddeall ei strategaeth, a Johnny ac Owen oedd yn gyrru popeth ac roedd ganddyn nhw gynllun gwell mewn lle.

"Mae hynny'n beth anodd am daith Y Llewod hefyd - cael pawb i wrando ar hyfforddwr sy'n sownd at ei hen arferion."

Mae'r BBC wedi gofyn am sylw gan Undeb Rygbi Cymru.

Pynciau Cysylltiedig