Carcharu beiciwr am ymosod ar yrrwr a cheisio dwyn ei gar

Llys y Goron Abertawe Image copyright Nigel Davies/Geograph

Mae beiciwr wedi cael ei garcharu am 15 mis yn dilyn ffrae â gyrrwr ar ffordd yn Abertawe.

Roedd David Price, 36, wedi taro'r dyn cyn ceisio gyrru ymaith yn ei gar, a hynny tra bod ei wraig a'i blant yn y cerbyd.

Dechreuodd yr anghydfod wedi i yrrwr y car orfod stopio ar frys ar ffordd yn ardal Treforys y ddinas.

Dywedodd y barnwr Peter Heywood fod Price "wedi rhoi'r teulu yma drwy brofiad erchyll".

'Trafferth cysgu'

Clywodd Llys y Goron Abertawe fod Price wedi gafael yng ngwddf y dyn arall yn ystod y ffrae, cyn ei daro yn ei ben.

Yna fe neidiodd i mewn i'r car a cheisio tanio'r injan, wrth i'r ddynes a'r ddau blentyn oedd yn y car sgrechian mewn ofn.

Pan wnaeth y gyrrwr lwyddo i dynnu goriadau'r car allan, fe wnaeth Price redeg i ffwrdd.

Clywodd y llys fod gwraig y gyrrwr wedi "ei dychryn yn lân" wedi'r digwyddiad a'i bod bellach yn cael trafferth cysgu.

Cafodd Price, oedd â "record droseddol hir", ei arestio wythnos yn ddiweddarach.

Fe gyfaddefodd i'r cyhuddiadau yn ei erbyn o geisio dwyn car ac o ymosodiad wnaeth achosi niwed corfforol.

Pynciau Cysylltiedig