Plannu capsiwl amser yng nghartref olaf Lloyd George

Ty Newydd
Image caption Tŷ Newydd yn Llanystumdwy oedd cartref olaf David Lloyd George

Fe fydd llenorion a phlant lleol yn plannu capsiwl amser fel rhan o brosiect i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Mawr yng Ngwynedd.

Mae'r gwrthrych - fydd yn llawn cerddi a llythyrau am heddwch - yn cael ei osod yng ngardd Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn Llanystumdwy brynhawn Sul.

Tŷ Newydd oedd cartref olaf David Lloyd George, ddaeth yn brif weinidog yn 1916.

Plant rhwng naw ac 11 oed o Sgwad Sgwennu Gwynedd fydd yn creu'r cerddi a'r llythyrau, a hynny mewn gweithdy yn ystod y bore gyda'r Prifardd Aneirin Karadog a'r awdur Siân Northey.

Mae'r digwyddiad yn rhan o gynllun Cadwyn Heddwch gan Lenyddiaeth Cymru, sydd â'r bwriad o goffáu'r rhyfel drwy ysgrifennu ac archwilio.

Fe fydd Tŷ Newydd ar agor i'r cyhoedd o 11:00, gyda'r capsiwl yn cael ei blannu am 14:30.

Pynciau Cysylltiedig